John Wilkinson

Oddi ar Wicipedia
John Wilkinson
Ganwyd1729 Edit this on Wikidata
Bridgefoot Edit this on Wikidata
Bu farw14 Gorffennaf 1808 Edit this on Wikidata
Bradley, Gorllewin Canolbarth Lloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethdyfeisiwr, metelegwr, person busnes Edit this on Wikidata
TadIsaac Wilkinson Edit this on Wikidata
MamMary Johnson Edit this on Wikidata
PriodAnn Maudesley Edit this on Wikidata

Metelegwr a dyfeisiwr o Loegr oedd John Wilkinson (1728 - 14 Gorffennaf 1808).

Cafodd ei eni yn Bridgefoot yn 1728, yn fab i Isaac Wilkinson. Ym 1748, adeiladodd ffwrnais yn Bradley, ger Wolverhampton. Erbyn 1772 roedd o wedi prynu plas a stad Bradley ac wedi estyn ei waith haearn yno. Erbyn 1763, roedd o, yn cyweithio efo William Wilkinson, ei frawd, wedi cymyd drosodd Gwaith Haearn y Bers, gwaith ei dad Isaac Wilkinson. Roedd ganddynt bartneriaeth efo Matthew Boulton a James Watt, gwneuthwyr peiriannau stêm. Mynnodd Boulton a Watt bod eu cwsmeriaid yn defnyddio cynnyrch Wilkinson wrth adeiladu’r peiriannau. Daeth eu perthynas i ben ar ôl i Wilkinson adeiladu copi o’r peiriannau Boulton a Watt heb ganiatâd.[1][2] Ym 1792, prynodd Wilkinson Stad Brymbo i greu gwaith haearn newydd i ddisodli’r Bers.[2]

Crëwyd Wilkinson peiriant i greu magneli mwy effeithiol a diogel, ac yn hwyrach, ffordd o greu rhigolau tu mewn i fagneli, i wella’u perfformiad. Lansiodd gych haearn ar Afon Hafren ym 1787.[1]

Bu farw yn Bradley ar 14 Gorffennaf, 1808 a chafodd ei gladdu mewn arch haearn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]