Banc yr Eidion Du

Oddi ar Wicipedia
Banc yr Eidion Du
Enghraifft o'r canlynolbanc, busnes Edit this on Wikidata
Daeth i ben1909 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1799 Edit this on Wikidata
OlynyddLloyds TSB Edit this on Wikidata
PencadlysLlanymddyfri Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata


Banc yr Eidion Du oedd enw banc Cymreig lleol a sefydlwyd gan borthmon o'r enw David Jones yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1799.

Hanes[golygu | golygu cod]

Fe'i sefydlwyd yn y 'King's Head' yn Llanymddyfri yn dangos llun o eidion ar ei nodau. Bu iddo hanes hir a llewyrchus; agorwyd canghennau yn Llanbedr Pont Steffan ac yn Llandeilo. Parhaodd ym meddiant yr un teulu hyd 1909 pryd y gwerthwyd yr ewyllys da i Fanc Lloyds. Ceir nodyn diweddar o'r flwyddyn 1898 am bum punt yn y Llyfrgell Genedlaethol dan law Gerwyn Jones, gor-ŵyr i'r David Jones a sefydlodd y banc bron i gan mlynedd cyn hynny gyda chymorth deng mil o bunnau o waddol ei wraig Ann, merch Rhys Jones o Gilrhedyn.[1]

Tra bod nifer o'r banciau llai eraill a agorid tua'r un adeg wedi mynd allan o fusnes erbyn canol y ganrif ddilynol, bu Banc yr Eidion Du yn fenter lwyddiannus iawn nes ei brynu gan Fanc Lloyds yn 1909.

Rhai o'r banciau eraill yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwyneth Lewis (Nadolig 1977). UN DDAFAD DDU - UN BUNT. Cymdeithas Bob Owen. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.