Banc y Llong

Oddi ar Wicipedia
Banc y Llong
Enghraifft o'r canlynolbanc Edit this on Wikidata
Daeth i ben1806 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1762 Edit this on Wikidata
Cynnyrchloans Edit this on Wikidata
PencadlysAberystwyth Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.everythingaberystwyth.co.uk/aberystwyth-fact-of-the-week/ Edit this on Wikidata
Adeilad Banc y Llong: "The Old Bank House", Stryd y Bont, Aberystwth

Credir mai yn Aberystwyth y sefydlwyd y banc cyntaf yng Nghymru, sef Banc y Llong, a hynny yn 1762 pryd y symudwyd y dollfa i'r dref honno o Aberdyfi. Gyda llun o long ar y nodau fe'i gelwid yn Fanc y Llong. Yn 1806 ffurfiwyd partneriaeth a gariodd y banc ymlaen dan yr enw 'Aberystwyth & Cardigan Bank' nes y daeth i ben yn 1815. Copi ffotograff yn unig sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol o un o nodau'r banc o'r flwyddyn 1806 am un bunt.[1]

Adeilad rhestredig Gradd II yw adeilad y banc, sydd wedi'i leoli ar Stryd y Bont, Aberystwyth.[2]

Rhai o'r banciau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R.C. Jones, Arian: The Story of Money and Banking in Wales (Abertawe, 1978)
  • Ben Bowen Thomas, Braslun o Hanes Economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwyneth Lewis (Nadolig 1977). UN DDAFAD DDU - UN BUNT. Cymdeithas Bob Owen. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
  2. British Listed Buildings; adalwyd 26 Gorffennaf 2018