Betty Campbell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Betty Campbell
Ganwyd 6 Tachwedd 1934 Edit this on Wikidata
Bu farw 13 Hydref 2017 Edit this on Wikidata (82 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Pennaeth, ymgyrchydd, Athro Edit this on Wikidata
Gwobr/au MBE Edit this on Wikidata

Athrawes ac ymgyrchydd cymunedol oedd Betty Campbell MBE (6 Tachwedd 193413 Hydref 2017) a'r brifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei geni yn Nhre-biwt, Caerdydd, fel Rachel Elizabeth Johnson, yn ferch i Simon Vickers Johnson o Jamaica a'i wraig Honora.[1]

Yn 17 mlwydd oed, a hithau’n astudio am ei Lefelau A, beichiogodd Betty ac yna yn 1953 gadwodd yr ysgol i briodi ei chariad, Robert Campbell. Cafodd ei addysg yn Lady Margaret High School for Girls, Caerdydd, ac yng Nhgoleg Caerdydd.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1960 a hithau bellach yn fam i dri o blant, fe ddaeth Betty ar draws hysbyseb ym mhapur y South Wales Echo oedd yn nodi bod Coleg Hyfforddi Caerdydd bellach yn derbyn myfyrwyr benywaidd. Yn sydyn, teimlai’r freuddwyd o ddysgu yn fwy real nag erioed ac yn fuan ar ôl ymgeisio, fe’i derbynwyd hi i’r coleg.[2]

Ei breuddwyd fawr hi oedd cael bod yn brifathrawes ac yn yr 1970au fe wireddwyd y freuddwyd honno pan ddaeth hi’n bennaeth ysgol du cyntaf Cymru yn Ysgol Mount Stuart. Fe’i hysbrydoldwyd hi gan ymgyrchwyr gwrth-gaethwasiaeth fel Harriet Tubman a’r mudiad hawliau sifil draw yn yr Unol Daleithiau felly dechreuodd ddysgu’r disgyblion am gaethwasiaeth, hanes pobl dduon a’r system apartheid oedd yn weithredol ar y pryd yn ne Affrica.[3]

Yn 1998, fel aelod o’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hil, fe’i gwahoddwyd i gyfarfod â Nelson Mandela yn ystod ei unig ymweliad ef â Chymru. Bu’n aelod o fwrdd BBC Wales yn yr 1980au gan oruchwylio materion golygyddol a chynyrchu ac, yn 2003, fe’i gwnaed yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ei gwasanaethau dros addysg a bywyd cymunedol.  Cynrychiolodd hi Dre-biwt fel cynghorydd hefyd fel aelod Llafur Cymru ac aelod annibynnol.[4]

Cafodd ei chyfweld gan Nick Broomfield yn 2016 am ei atgofion personol o ddathlu ei phenblwydd priodas aur yn Y Cyfnewidfa Lo mewn rhaglen ddogfen BBC Going Going Gone: Nick Broomfield's Disappearing Britain.[5]

Marwolaeth a'i hetifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Campbell ar 13 Hydref 2017, ar ôl bod yn sâl ers sawl mis.[1]

Ar unwaith, galwodd Cyngor Hil Cymru am godi cerflun er cof amdani, gyda lleoliadau posib ger Canolfan Mileniwm Cymru neu'r ail-ddatblygiad o Sgwâr Canolog, Caerdydd.[6] Yn 2019 roedd Campbell yn un o bump menyw ar y rhestr fer er mwyn codi'r cerflun cyntaf o fenyw mewn lle cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru. Cynhaliodd y BBC bleidlais gyhoeddus gan roi sylw i'r pump dewis yn eu rhaglenni newyddion dros wythnos.[7] Ar 18 Ionawr 2019, cyhoeddwyd mai Campbell oedd wedi ennill y bleidlais, a mai cherflun ohoni hi fyddai'n cael ei godi yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, i gyd-fynd a swyddfeydd BBC Cymru yn symud i'r sgwâr erbyn 2019-2020.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]