Chiswick
Gwedd
| Math | ardal o Lundain |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hounslow, Chiswick Urban District, Municipal Borough of Brentford and Chiswick |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5.72 km² |
| Gerllaw | Afon Tafwys |
| Yn ffinio gyda | Acton, Llundain |
| Cyfesurynnau | 51.4925°N 0.2633°W |
| Cod OS | TQ205785 |
| Cod post | W4 |
![]() | |
Maestref fawr yw Chiswick wedi ei lleoli yng ngorllewin Llundain Fwyaf, 9.7 cilometr (6 milltir) i'r gorllewin o Charing Cross ar ystum Afon Tafwys. Mae'n ffurfio rhan o Fwrdeistref Llundain Hounslow. Yn hanesyddol roedd Chiswick yn blwyf hynafol yn hen sir Middlesex, gydag economi yn dibynnu ar amaethyddiaeth a pysgota. Yn ystod twf diwydiannol Llundain yn y 19eg a'r 20g tyfodd poblogaeth Chiswick a daeth yn fwrdeistref trefol gyda Brentford ym 1932 a dod yn rhan o Lundain Fawr ym 1965. Mae Caerdydd 202 km i ffwrdd o Chiswick ac mae Llundain yn 11.4 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 9 km i ffwrdd.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg daw'r enw Chiswick o'r Hen Saesneg am fferm gaws (Cheese Farm).
