Brentford
Gwedd
| Math | ardal o Lundain, tref sirol, tref farchnad |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hounslow |
| Poblogaeth | 16,571 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5.87 km² |
| Gerllaw | Afon Tafwys, Afon Brent |
| Cyfesurynnau | 51.4861°N 0.3101°W |
| Cod OS | TQ1878 |
| Cod post | TW8 |
![]() | |
Tref ym Mwrdeistref Llundain Hounslow, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Brentford.[1] Saif tua 8 milltir (13 km) i'r gorllewin-dde-orllewin o ganol Llundain.[2] Fe'i lleolir yng nghymer neu gydlifiad dwy afon: Afon Tafwys ac Afon Brent, a saif ar ben dwyreiniol Coridor yr M4.
Yn hanesyddol arferai Brenford fod o fewn Middlesex, ac weithiau fe'i hystyrid yn dref sirol y swydd, ond mae wedi bod yn rhan o Llundain Fwyaf ers 1965.
Yn 54 CC ymladdwyd brwydr yma rhwng Iwl Cesar a'r Brython Cassivelaunus. Yn 781 ceir cofnod o anghydfod rhwng Offa, brenin Mersia ac Esgob Cerwrangon ac ymladdwyd brwydr arall bwysig yn y cyffiniau yn 1016 rhwng Cnut Fawr ac Edmwnd II.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 29 Ebrill 2019
- ↑ Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.
