Claddgell

Oddi ar Wicipedia
Claddgell Cadeirlan Bayeux, Ffrainc

Siambr garreg o dan lawr eglwys neu adeilad arall yw claddgell (hefyd crypt, o'r Lladin crypta "cromgell" neu "daeargell"). Mae fel arfer yn cynnwys eirch, archgerrig, neu greiriau crefyddol.

Yn wreiddiol, byddai claddgelloedd yn cael eu darganfod o dan brif grongafell eglwys, fel yn Abaty Saint-Germain en Auxerre, ond wedi eu lleoli yn ddiweddarach o dan gangell, corff yr eglwys neu'r ale groes. Yn achlysuol, byddai eglwysi yn cael eu dyrchafu. Yn achlysurol byddai eglwysi yn cael eu dyrchafu yn uchel fel bod modd cael claddgell oddi tanynt, fel yn Eglwys Sant Mihangel yn Hildesheim, Yr Almaen.