Senedd Prydain Fawr
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Ffurfiwyd Senedd Prydain Fawr yn 1707 yn dilyn cadarnhad y Deddfau Uno gan Senedd yr Alban a Senedd Lloegr. Creodd y Deddfau Deyrnas Prydain Fawr gan greu un senedd unedig yn hytrach na dwy senedd ar wahân. Lleolwyd y senedd yn hen gartref Senedd Lloegr, Palas San Steffan, Llundain.
Senedd y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod y dudalen]
Crëwyd Senedd y Deyrnas Unedig yn 1801 pan unwyd Teyrnas Prydain Fawr gyda Theyrnas Iwerddon i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon o dan Ddeddf Uno 1800.