Edward Breese

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edward Breese
Edward Breese.jpg
Ganwyd 13 Ebrill 1835 Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mawrth 1881 Edit this on Wikidata (45 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth hynafiaethydd, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata

Roedd Edward Breese (13 Ebrill 1835 - 10 Mawrth 1881) yn gyfreithiwr ac yn hynafiaethydd Cymreig

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Edward Breese yng Nghaerfyrddin 13 Ebrill 1835 yn ail fab i John Breese, gweinidog gyda'r Annibynwyr a Margaret Williams (chwaer i David Williams AS Castell Deudraeth). Cafodd ei dad alwad i wasanaethu capel yn Lerpwl ac yno y magwyd Edward am y mwyafrif o'i blentyndod.[1]

Byd y Gyfraith[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lewisham cyn cael ei erthyglu yn swyddfa gyfreithiol ei ewyrth ym Mhorthmadog lle y cymhwysodd fel cyfreithiwr ym 1857. Ym 1859 olynodd ei ewythr fel Clerc yr Heddwch ar gyfer Sir Feirionnydd. Gan fod David Williams yn brif reolydd Ystâd William Alexander Madocks, bu Breese hefyd yn chware rhan bwysig yng nghynllunio a datblygu tref newydd Porthmadog.

Sefydlodd cwmni cyfreithiol Breese, Jones & Casson ym Mhorthmadog, lle ddaeth David Lloyd George i gyflawni ei erthyglau. Gwasanaethodd Breese fel asiant y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Meirionnydd yn ystod etholiad 1880.

Yr Hynafiaethydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd nifer o erthyglau i'r cylchgrawn hynafiaethol Archaeologia Cambrensis, a chylchgronau hynafiaethol eraill ond daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur, ar y cyd â Mr R M Wynne, Peniarth, o Kalendars of Gwynedd, cyfrol yn cynnwys rhestrau llawn o Raglawiaid, Custos Rotulorum, Siryfion, ac Aelodau Seneddol etholaethau Siroedd Môn, Caernarfon, Meirionnydd, a Bwrdeistrefi Caernarfon a Biwmares, a nifer o swyddi cyhoeddus eraill.[2] Mae'r gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1873, yn parhau i gael ei ystyried yn waith safonol a dibynadwy hyd heddiw.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd ym 1863 a Margaret Jane, merch Lewis Williams, Dolgellau, (Uchel siryf Sir Feirionnydd ym 1865). Bu iddynt chwech o blant (pedwar mab a dwy ferch). Bu un o'i feibion, Charles Edward Breese yn aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Gaernarfon o 1918 i 1922.

Bu farw 10 Mawrth 1871 a'i gladdu ym mynwent eglwys Penrhyndeudraeth ar y 15fed o'r un mis.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Breese Edward yn Eminent Welshmen 1908 adalwyd 17 Chwef 2014]
  2. Kalendars of Gwynedd gan Edward Breese ac R M Wynne; J. C. Hotten ynys Môn 1873
  3. Breese, Edward yn y Bywgraffiadur ar lein