David Williams (Meirionnydd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
David Williams
David-Williams-Castell-Deudraeth.jpg
Ganwyd 30 Mehefin 1799 Edit this on Wikidata
Llangïan Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Rhagfyr 1869 Edit this on Wikidata (70 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd David Williams (30 Mehefin 17997 Rhagfyr 1869) yn wleidydd, cyfreithiwr a tirfeddiannwr. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn 1868 cyn marw yn y swydd flwyddyn yn ddiweddarach.

Dyddiau Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd David Williams 30 Mehefin 1799 yn Saethon Llangian Ynys Môn, yn nawfed plentyn i David Williams, Saethon (1754-1823), a Jane (née Jones) (1769-1834) ei wraig.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Annie Louisa Loveday Williams ym 1841, yr oedd hi yn ferch i William Williams Peniarth uchaf. Bu iddynt 14 o blant, yr hynaf o'r rhain oedd Syr Arthur Osmond Williams un o olynyddion David Williams fel AS Meirionnydd [1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd brawd hyn i David, John Williams, wedi sefydlu fel cyfreithiwr yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn ac aeth David ato i ddysgu'r un grefft. Wedi cymhwyso yn y proffesiwn symudodd i Feirionnydd i weithio fel cyfreithiwr a phrif reolydd Ystâd William Alexander Madocks (yr hwn a roddodd ei enw i Borthmadog). Fe fu ynghlwm a'r gwaith o sychu tiroedd y tu ôl i gob Porthmadog ac fe adeiladodd nifer o dai ar y tiroedd a adferwyd yn yr hyn sydd bellach y rhan isaf o Benrhyndeudraeth.

Bu'n glerc yr heddwch yn Sir Feirionnydd, 1842-59 , bu'n gwasanaethu fel Dirprwy Raglaw Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon, yn Siryf Meirionnydd o 1861 i 1862 a Sir Gaernarfon o 1862 i 1863.

Bu'n ymddiddori'n fawr ym marddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg gan ddefnyddio'r enw barddol Dewi Heli mewn cylchoedd Eisteddfodol.

Gyrfa Gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Safodd David Williams yn enw'r Rhyddfrydwyr yn Erbyn W. W. E. Wynne, Peniarth ym 1859 a chael ei guro o 40 bleidlais, fe arweiniodd yr etholiad at ail strwythuro'r achos Rhyddfrydol yn yr etholaeth. Safodd eto ym 1865 gan leihau mwyafrif y Torïaid i 31. Ddwy flynedd yn ddiweddarach pasiwyd Deddf Diwygio’r Senedd 1867 ac o ganlyniad cafodd llawer mwy o ddynion yr hawl i bleidleisio, yn arbennig felly yn yr ardaloedd diwydiannol megis Ffestiniog. Bu'r cynnydd yn nifer y pleidleiswyr yn fanteisiol iawn i'r achos Ryddfrydol. Wedi gweld yr ysgrifen ar y mur fe dynnodd yr ymgeisydd Ceidwadol allan o ymgyrch seneddol 1868 ychydig ddyddiau cyn yr etholiad a chafodd Williams ei ethol yn ddiwrthwynebiad - y Rhyddfrydwr cyntaf i gynrychioli'r sir yn San Steffan. Daliwyd y sedd gan y Rhyddfrydwyr am yr 83 mlynedd nesaf, hyd i'r Blaid Lafur ei chipio ym 1951.[2]

Er mawredd ei lwyddiant yn etholiad 1886, prin bu gyrfa seneddol David Williams; oherwydd salwch pleidleisiodd dim ond unwaith ar fesur Seneddol - sef ail ddarlleniad Mesur Eglwys yr Iwerddon, bu farw blwyddyn ar ôl ei ethol ar 15 Rhagfyr 1869 [3] a chafodd ei gladdu ym mynwent Penrhyndeudraeth

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Griffiths, Ceiri; Achau rhai o Deuluoedd hen Siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn; Gwasg y Lolfa 2012 ISBN 978-1-84771-493-0
  2. Cambrian News and Merionethshire Standard 4 Mawrth 1904 "Coming of age of Lieut Osmond Williams" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3320248/ART59
  3. "Death of a Welsh MP" Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 17 Rhagfyr 1869 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3287086/ART29
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Robert Maurice Wynne
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18681869
Olynydd:
Samuel Holland