Osmond Williams
Gwedd
| Osmond Williams | |
|---|---|
Syr Arthur Osmond Williams AS | |
| Ganwyd | 17 Mawrth 1849 Llanfihangel-y-traethau |
| Bu farw | 28 Ionawr 1927 |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ryddfrydol |
| Tad | David Williams |
| Mam | Anne Louisa Loveday Williams |
| Priod | Frances Evelyn Greaves |
| Plant | David Osmond Deudraeth Williams, Osmond Williams, Evelyn Olwen Williams, Lawrence Trevor Greaves Williams, Annie Salizma Loveday Williams, Ellen Dolga Dormie Williams |
| Gwobr/au | Marchog Faglor |
Gwleidydd o Gymru oedd Syr Arthur Osmond Williams (17 Mawrth 1849 – 28 Ionawr 1927) a oedd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Sir Feirionnydd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Llanfihangel-y-traethau, yn fab i David Williams, AS Meirion 1868-1869, ac Anne Louisa Loveday Williams. Fe'i addysgwyd yn ysgol bonedd Eton. Ymbriododd â Evelyn Greaves, merch John Whitehead Greaves ac Ellen Stedman, ar 3 Awst 1880 bu iddynt chwe phlentyn.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Fe'i etholwyd yn AS Meirionnydd ym 1900 gan dal y sedd hyd 1910.
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Owen Morgan Edwards |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1900 – 1910 |
Olynydd: Syr Henry Haydn Jones |
| Teitlau Anrhydeddus | ||
| Rhagflaenydd: William Robert Wynne |
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd 1909 - 1927 |
Olynydd: George Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech |