George Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech
George Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 1855 Llundain |
Bu farw | 8 Mai 1938 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | William Richard Ormsby-Gore |
Mam | Emily Charlotte Harlech Ormsby-Gore |
Priod | Margaret Ethel Ormsby-Gore |
Plant | William George Arthur Ormsby-Gore, 4ydd Barwn Harlech |
Gwobr/au | Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon |
Roedd George Ralph Charles Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech, KCB TD (21 Ionawr 1855 – 8 Mai 1938), yn filwr Prydeinig ac yn Aelod Seneddol Ceidwadol.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd yr Arglwydd Harlech yn fab i William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech, a'r Arglwyddes Charlotte Emily Seymour.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton a'r Coleg Milwrol Brenhinol yn Sandhurst.
Priododd yr Arglwyddes Margaret Ethel Gordon, merch Charles Gordon, 10fed Ardalydd Huntly, ym 1881.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd yn y fyddin reolaidd fel Is-gapten yn y Gwarchodlu'r Coldstream o 1875 i 1883. Yn ddiweddarach gwasanaethodd yn y Shropshire Yeomanry, gan wasanaethu fel ei phennaeth milwrol gyda gradd Is-gyrnol o 1902 i 1907, ac fel Cyrnol Anrhydeddus o 1908. Roedd yn bennaeth ar y Gwarchodlu Cymreig cartref ym 1915 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[1]. Fe fu yn Gadeirydd Cymdeithas Fyddin Diriogaethol Swydd Amwythig.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel yr aelod Ceidwadol dros etholaeth Croesoswallt mewn isetholiad ym mis Mai 1901,[2] gan dal y sedd hyd 1904 pan olynodd ei dad fel y trydydd Barwn Harlech a gorfod rhoi'r gorau i'w sedd yn Nhŷ'r Cyffredin wrth ddod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.[3]
Gyrfa Gyhoeddus
[golygu | golygu cod]Roedd yn Ynad Heddwch ar gyfer Swydd Leitrim a Swydd Amwythig ac yn Uchel Siryf Leitrim am y flwyddyn 1885. Fe fu hefyd yn gwasanaethu fel Arglwydd Raglaw Leitrim o 1904 i 1922 ac fel Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd o 1927 i 1938. Roedd yn Gwnstabl Castell Harlech o 1927 hyd ei farwolaeth. Bu'n yn Farchog o Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, a dyfarnwyd iddo'r Tlws Tiriogaethol ym 1910 ac yna fe'i urddwyd yn Farchog Urdd y Baddon. O 1926 i 1938 bu'n gwasanaethu fel Uchel Feistr Taleithiol Seiri Rhyddion Swydd yr Amwythig.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw'r Arglwydd Harlech ym mis Mai 1938 yn 83 oed, a dilynwyd ef yn y farwniaeth gan ei fab William. Bu farw Arglwyddes Harlech ym 1950. Mae'r cwpl wedi eu claddu ym mynwent plwyf Selattyn ger Croesoswallt.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Stanley Leighton |
Aelod Seneddol Croesoswallt 1901 – 1904 |
Olynydd: Allan Heywood Bright |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: William Richard Ormsby-Gore |
Barwn Harlech 1904–1938 |
Olynydd: William George Arthur Ormsby-Gore |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Syr Arthur Osmond Williams |
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd 1938-1957 |
Olynydd: William George Arthur Ormsby-Gore |