William George Arthur Ormsby-Gore, 4ydd Barwn Harlech
| William George Arthur Ormsby-Gore, 4ydd Barwn Harlech | |
|---|---|
| Ganwyd | William George Arthur Ormsby-Gore 11 Ebrill 1885 Llundain |
| Bu farw | 14 Chwefror 1964 Llundain |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | Baglor yn y Celfyddydau |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd, banciwr |
| Swydd | Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Uchel Gomisiynydd y Deyrnas Unedig i Dde Affrica, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, ynad heddwch, Dirprwy Raglaw, Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd, Postfeistr Cyffredinol y Deyrnas Unedig |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
| Tad | George Ormsby-Gore |
| Mam | Margaret Ethel Ormsby-Gore |
| Priod | Beatrice Ormsby-Gore |
| Plant | William David Ormsby-Gore, Mary Ormsby-Gore, Owen Ormsby-Gore, Katharine Macmillan, John Julian Stafford Ormsby-Gore, Elizabeth Ormsby-Gore |
| Llinach | teulu Ormsby-Gore |
| Gwobr/au | Knight of the Garter, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr |
Roedd Y Gwir Anrhydeddus William George Arthur Ormsby-Gore, 4ydd Barwn Harlech KG, GCMG, PC (11 Ebrill, 1885 – 14 Chwefror, 1964), yn wleidydd Ceidwadol, yn dirfeddiannwr, yn fancwr ac yn bendefig Cymreig.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd William Ormsby-Gore yn Llundain, yn fab i George Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech a'r Arglwyddes Margaret, merch Charles Gordon, 10fed Ardalydd Huntly. Cafodd ei addysgu yn Eton a New College, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1908.[2]
Priododd yr Arglwydd Harlech a'r Arglwyddes Beatrice Edith Mildred, merch James Gascoyne-Cecil, 4ydd Ardalydd Salisbury, ym 1913.Bu iddynt dau fab ac un ferch. Bu farw ei fab hynaf Owen Gerard Cecil Ormsby-Gore o'i flaen. Bu farw'r Arglwydd Harlech ym mis Chwefror 1964 yn 78 mlwydd oed, ac olynwyd ef i'r farwniaeth gan ei ail fab David Ormsby-Gore, 5ed Barwn Harlech.
Gwasanaeth milwrol
[golygu | golygu cod]Er ei fod yn Aelod Seneddol ar y pryd, gyda'r hawl i'w heithrio o wasanaeth milwrol fe ymrestrodd a'r fyddin ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf gan wasanaethu fel Is-gapten ym 1914;a Chapten am weddill y rhyfel yng Ngwasanaeth Cudd-ymchwil yr Aifft.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn Uchel Gomisiynydd i Dde Affrica o 1941 i 1944.[3]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Eisteddodd Harlech fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistrefi Dinbych o 1910 i 1918 ac ar gyfer Stafford o 1918 tan 1938 gan wasanaethu yn y Llywodraeth fel Is-ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1922 i 1929 (ac eithrio am gyfnod ym 1924 pan fu Llywodraeth Lafur byrhoedlog ). Roedd yn gynrychiolydd Prydain ar Gomisiwn Mandadau Parhaol Cynghrair y Cenhedloedd o 1921 i 1922. Gwasanaethodd fel Postfeistr Cyffredinol ym 1931, a Phrif Comisiynydd Gweithfeydd 1931-1936 ac fel Ysgrifennydd y Trefedigaethau rhwng 1936 a 1938.
Bu farw ei dad ym 1938 a dyrchafwyd William i Dŷ'r Arglwyddi fel olynydd iddo.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl ymddeol o wleidyddiaeth rheng flaen gwasanaethodd ar fwrdd Banc y Midland, yr oedd hefyd yn berchennog, cyfarwyddwr a chadeirydd y Bank of West Africa, banc a sefydlwyd gan ei deulu.
Gwasanaeth cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd yr Arglwydd Harlech fel Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd o 1938 i 1957; Cwnstabl Castell Harlech 1938 i 1964; Cwnstabl Castell Caernarfon 1946-63; ymddiriedolwr Yr Amgueddfa Brydeinig, 1937; ymddiriedolwr yr Oriel Genedlaethol o 1927 i 1934 ac eto o 1936 i 1941; ymddiriedolwr Oriel y Tate o 1931 i 1938 ac o 1945 i 1953; Canghellor Prifysgol Cymru, 1945-1957 a Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1950 a 1958.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Ym 1927 derbyniwyd Ormsby-Gore i'r Cyfrin Gyngor. Fe'i urddwyd yn farchog yn Urdd San Mihangel a San Siôr ym 1938 ac ym 1948 fe'i gwnaed yn Farchog y Gardys (Knight of the Garter).
Cafodd ei ddyrchafu yn Gymrawd er anrhydedd gan New College, Rhydychen ym 1936; derbyniodd DCL Oxon er anrhydedd ym 1937 a LLD er anrhydedd Prifysgol Cymru ym 1947. Fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr ym 1947.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Florentine Sculptors of the Fifteenth Century, 1930;
- Guide to the Mantegna Cartoons at Hampton Court, 1935;
- Guides to the Ancient Monuments of England 1936-1938
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ORMSBY-GORE, WILLIAM GEORGE ARTHUR yn y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 12 Ionawr 2015 trwy docyn darllenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- ↑ ‘HARLECH’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [2] adalwyd 12 Ionawr 2015
- ↑ Fedorowich, K. (2008) Lord Harlech in South Africa, 1941-1944. Yn: Baxter, C. and Stewart, A., gol. (2008) Diplomats at War: British and Commonwealth Diplomacy in Wartime. Leiden and Boston: Martinus Nijhoff, tud. 195-225. ISBN 978 90 04 16897 8
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Allen Clement Edwards |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Dinbych 1910 – 1918 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
| Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
| Rhagflaenydd: George Ormsby-Gore |
Barwn Harlech 1938–1964 |
Olynydd: David Ormsby-Gore |
| Teitlau Anrhydeddus | ||
| Rhagflaenydd: George Ormsby-Gore |
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd 1938-1957 |
Olynydd: John Francis Williams-Wynne |