William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech

Oddi ar Wicipedia
William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech
Ganwyd3 Mawrth 1819 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 1904 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Prydain Fawr Prydain Fawr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadWilliam Ormsby-Gore Edit this on Wikidata
MamMary Jane Ormsby-Gore Edit this on Wikidata
PriodEmily Charlotte Harlech Ormsby-Gore Edit this on Wikidata
PlantGeorge Ormsby-Gore, Seymour Ormsby-Gore, Mary Georgina Ormsby-Gore, William Seymour Ormsby-Gore, Henry Ormsby-Gore, Emily Ormsby-Gore Edit this on Wikidata

Roedd William Richard Ormsby-Gore, 2il Barwn Harlech (3 Mawrth 181926 Mehefin 1904), yn filwr ac Aelod Seneddol Prydeinig.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd William yn fab i William Ormsby-Gore a Mary Jane Ormsby. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Eton.

Yn ugain oed ymunodd â 53 Catrawd y Troedfilwyr ym 1839 fe'i codwyd yn is-gapten ym 1841. Trosglwyddodd i gatrawd y Light Dragoons fel capten ym 1846 a chafodd ei ddyrchafu'n uwchgapten ym 1852.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Yn etholiad cyffredinol 1841, etholwyd Ormsby-Gore yn ddiwrthwynebiad fel yr AS Geidwadol dros Swydd Sligo. Yn etholiad cyffredinol 1852 cafwyd cystadleuaeth ar gyfer y sedd a chafodd ei orchfygu gan ymgeisydd Rhyddfrydol a oedd yn tueddu at genedlaetholdeb. Dychwelodd i'r Senedd mewn isetholiad ar 17 Mai 1858 fel yr AS dros Swydd Leitrim, sedd a gadwodd hyd 1876.[1]

Prynodd Ormsby-Gore ystâd yn Derrycarne ger Dromod yn Swydd Leitrim. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Leitrim am dymor 1857. Fe'i penodwyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Leitrim ym 1878,[2] gan gadw'r swydd hyd ei farwolaeth.

Arglwydd Harlech[golygu | golygu cod]

Ar 14 Ionawr 1876, codwyd John ei frawd i'r bendefigaeth fel y Barwn 1af Harlech. Gan nad oedd gan John etifedd gwrywaidd rhoddwyd y Barwniaeth iddo gyda hawl gweddilliad statudol yn enwi ei William yn etifedd tybiedig. Fel mae'n digwydd bu farw'r Barwn gyntaf o fewn 6 mis i'w ddyrchafiad,[3] ac ar 15 Mehefin 1876 daeth William Ormsby-Gore yn ail Farwn Harlech.

Penodwyd Harlech yn Ddirprwy Raglaw Swydd Amwythig ar 22 Chwefror 1882.

Priodas a phlant[golygu | golygu cod]

Priododd yr Arglwydd Harlech y Fonesig Emily Charlotte Seymour, merch yr Admiral Syr George Francis Seymour a chwaer Francis Hugh George Seymour, 5ed Ardalydd Hertford ym 1850. Bu iddynt chwech o blant.[1]

Marw[golygu | golygu cod]

Bu farw'r Arglwydd Harlech yn ei gartref yn Llundain ar 26 Mehefin 1904 yn 85 mlwydd oed.[4] Rhoddwyd ei gorff i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sylatyn [5]. Fe'i holynwyd i'r farwniaeth gan George, ei fab hynaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "MARWOLAETH ARGLWYDD HARLECH - Y Dydd". William Hughes. 1904-07-01. Cyrchwyd 2019-01-13.
  2. Edinburgh Gazzette rhif 8909 adalwyd 13 Ionawr 2019
  3. "MARWOLAETH ARGLWYDD HARLECH - Y Goleuad". John Davies. 1876-06-24. Cyrchwyd 2019-01-13.
  4. "Marwolaeth Arglwydd Harlech - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1904-06-30. Cyrchwyd 2019-01-13.
  5. "Angladd Arglwydd Harlech - Gwalia". Robert Williams. 1904-07-05. Cyrchwyd 2019-01-13.
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
John Ralph Ormsby-Gore
Barwn Harlech
18761876
Olynydd:
George Ormsby-Gore