Alice Williams
Alice Williams | |
---|---|
Ffugenw | Alys Meirion |
Ganwyd | 12 Mawrth 1863 Penrhyndeudraeth |
Bu farw | 15 Awst 1957 Chelsea |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, golygydd |
Tad | David Williams |
Mam | Anne Louisa Loveday Williams |
Bardd, arlunydd a gweithiwr lles gwirfoddol o Gymru oedd Alice Williams CBE neu Alice Helena Alexandra Williams; gyda'r enw barddol Alys Meirion (12 Mawrth 1863 – 15 Awst 1957).
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganed Alice Williams yng Nghastell Deudraeth ym Mhenrhyndeudraeth i Annie Louisa Loveday a David Williams. Roedd ei thad yn dirfeddiannwr a gwleidydd Rhyddfrydol. Hi oedd y ferch ieuengaf ac er bod ei rhieni'n ryddfrydol roedd disgwyl iddi ofalu am ei mam. Ym 1900 olynodd ei brawd, Syr Arthur Osmond Williams, ei dad fel AS ac aeth ymlaen i gefnogi pleidlais i fenywod. Rhyddhawyd hi o'r gwaith o ofalu am ei mam pan fu honno farw ym 1904. Aeth Alice ati i gwblhau ei haddysg drwy deithio.[1] Ym 1914 dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod y rhyfel bu'n gweithio i Gronfa Argyfwng Clwyfedigion Ffrainc. Helpodd Alice i greu Uned Pobl ar Goll a elwir yn "Fiwro Signalau". Rhoddodd llywodraeth Ffrainc y Medaille de la Reconnaissance Francaise iddi am ei gwaith.[2]
Mae'n cael y clod am greu Clybiau Lyceum i fenywod ym Mharis a Berlin yn ystod ei hymweliadau. Gallai Alice Williams baentio a chwarae'r piano. Dangosodd ei dyfrlliwiau yn Ffrainc ac ym Mhrydain.[1]
Alice Williams oedd cadeirydd un o ganghennau cyntaf Prydain o Sefydliad y Merched ym Mhenrhyndeudraeth. Adeiladodd y grŵp hwn y Neuadd Sefydliad cyntaf.[2] Ym 1917 ffurfiwyd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched. Ar 16 Hydref etholwyd yr Arglwyddes Denman a Grace Hadow yn gadeirydd ac is-gadeirydd ac etholwyd Alice Williams yn ysgrifennydd a thrysorydd anrhydeddus.[3] Hi oedd yr unig wirfoddolwr yn y rôl hon, ac ym 1918 penodwyd ysgrifennydd cyffredinol cyflogedig. Fe'i symudwyd i'r pwyllgor gwaith a'r flwyddyn ganlynol[2] cyhoeddodd FfCSYM ei gylchgrawn cyntaf o'r enw 'Home and Country' a Williams oedd ei golygydd cyntaf. Dangosodd y gyfrol gyntaf y Frenhines yn ymweld ag arddangosfa Sefydliad y Merched.[3]
Roedd Williams yn aelod o Union des femmes peintres et sculpteurs.[2]
Ysgrifennodd ddrama o'r enw "Britannia" a berfformiwyd gan Sefydliad y Merched Penrhyndeudraeth. Yn bwysicach na hynny, cafodd y ddrama ei chyfieithu i'r Gymraeg gan Ceridwen Peris. Derbyniwyd Alice Williams i'r Orsedd gyda'r enw barddol Alys Meirion.[4] Dechreuodd ei golwg fethu ac roedd hi'n ddall erbyn 1930. Rhoddwyd Gorchymyn yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i Williams ym 1937.[2]
Bu Alice Williams farw yn Chelsea ym 1957.[1]
Mae ei gwaith yn cynnwys
[golygu | golygu cod]- 'Aunt Mollie's Story' (1913)
- 'Britannia' (1917)
- 'Britain Awake: An Empire Pageant Play' (1932)
- 'Gossip' (1935)[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Ceridwen Lloyd-Morgan, 'Williams, Alice Helena Alexandra (1863–1957)', Geiriadur Rhydychen, Bywgraffiad Cenedlaethol, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004 y cafwyd mynediad iddo 20 Hydref 2017
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Archives, The National. "The Discovery Service". discovery.nationalarchives.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-10-20.
- ↑ 3.0 3.1 "National Federation of Women's Institutes | The origins". www.thewi.org.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-20. Cyrchwyd 2017-10-20.
- ↑ Jane Robinson (6 October 2011). A Force To Be Reckoned With: A History of the Women's Institute. Little, Brown Book Group. t. 144. ISBN 978-0-7481-1948-6.