Charles Edward Breese
Charles Edward Breese | |
---|---|
Ganwyd | 1867 Porthmadog |
Bu farw | 15 Awst 1932 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Cyfreithiwr, gwleidydd a hynafiaethydd o Gymru oedd yr Uwchgapten Charles Edward Breese (26 Mawrth 1867 – 15 Awst 1932). Roedd yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Sir Gaernarfon o 1918 hyd 1922.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Breese ym Mhorthmadog yn fab i'r hynafiaethydd Edward Breese a Margaret Jane Williams ei wraig.
Bu ei ewyrth David Williams, Castell Deudraeth a'i gefnder Osmond Williams yn Aelodau Seneddol Rhyddfrydol Sir Feirionydd a bu ei dad yn drefnydd y Rhyddfrydwyr ym Meirion a Chaernarfon.
Ar 1 Chwefror, 1894 priododd Janet, merch y Parchedig Paul Methuen Stedman;[2] bu iddynt un ferch.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cymhwysodd Breese yn gyfreithiwr ym 1889 ac, fel Lloyd George, aeth i weithio fel cyfreithiwr yng nghwmni ei dad Breese, Jones a Casson ym Mhorthmadog, newidiwyd enw’r cwmni i Charles Breese & Co.
Gwasanaethodd Breese fel Capten ar Gorfflu o Wirfoddolwyr cyn y Rhyfel Byd Cyntaf pan dorrodd y rhyfel galwyd ar y gwirfoddolwyr i wasanaethu yn y theatr Ewropeaidd; cafodd ei ddyrchafu yn uwchgapten.
Hynafiaethau
[golygu | golygu cod]Fel ei dad, roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hynafiaethau, archaeoleg a herodraeth. Roedd yn gadeirydd pwyllgor gwaith Cymdeithas Hynafiaethau Cymru ac roedd yn un o'i is-lywyddion ym 1930. Ym 1908 fe fu Breese a'r Athro Anwyl o Brifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am ganfod olion Rhufeinig o gryn ddiddordeb ar dir y Glaslyn Porthmadog.[3]
Roedd Breese hefyd yn Saer Rydd brwdfrydig a wasanaethodd fel ysgrifennydd cyfrinfa Gogledd Cymru o'r urdd.[4]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Bu tri dyn yn ceisio am enwebiad y Blaid Ryddfrydol yn Sir Gaernarfon ar gyfer etholiad 1918 Breese, Ellis William Davies, cyn AS Eifion (etholaeth a chafodd ei ddiddymu ar gyfer yr etholiad) a Robert Thomas Jones arweinydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Dewiswyd Breese fel yr ymgeisydd ond pan alwyd yr etholiad safodd y tri; Breese fel Rhyddfrydwr swyddogol gyda thocyn y glymblaid, Davies fel Rhyddfrydwr Annibynnol a Jones fel Llafur Annibynnol etholwyd Breese yn weddol gyffyrddus.[5]
Etholiad cyffredinol 1918
Nifer yr etholwyr 36,460 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Charles Edward Breese | 10,488 | 44.5 | ||
Llafur Annibynnol | Robert Thomas Jones | 8,145 | 34.6 | ||
Rhyddfrydwr Annibynnol | Ellis William Davies | 4,937 | 20.9 | ||
Mwyafrif | 2,343 | 9.9 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 64.6 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Ym 1921 cafodd Breese ei benodi gan y Gweinidog Pensiynau, Ian Macpherson, i wasanaethu ar y Pwyllgor Ymgynghorol ar Bensiynau i benderfynu ar y dyfarniadau terfynol oedd i'w derbyn gan ymgeiswyr oedd yn ceisio tal dan Ddeddf Pensiynau Rhyfel, 1921. Ym 1922 fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i HAL Fisher Llywydd y Bwrdd Addysg.
Yn etholiad cyffredinol 1922 safodd Breese yn Sir Gaernarfon fel Rhyddfrydwr Cenedlaethol. Oherwydd cytundeb rhwng y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a'r Ceidwadwyr doedd dim ymgeisydd Torïaidd, ond fe safodd R T Jones eto fel ymgeisydd y Blaid Lafur gan gipio'r sedd oddi wrth Breese. Ni safodd ar gyfer y Senedd eto.
Bu Breese yn gwasanaethu ar Gyngor Sir Gaernarfon ac fe'i gwnaed yn Henadur y sir. Roedd hefyd yn gwasanaethu fel ysgrifennydd Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymru.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Breese yn sydyn o drawiad ar y galon wrth hela grugieir ar fynydd yr Arenig Fawr ger y Bala[6] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Penrhyndeudraeth[7].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Breese, Edward (1835 - 1881) Y Bywgraffiadur arlein (adran am y fab yn erthygl y tad)[1] adalwyd 20 Ebrill 2015
- ↑ Portmadoc - Carnarvon and Denbigh Herald 27 Ebrill 1894 [2] adalwyd 20 Ebrill 2015
- ↑ "Roman Remains Found", Cardiff Times, 21 Mawrth 1908; adalwyd 20 Ebrill 2015
- ↑ "Freemasonry", Carnarvon and Denbigh Herald, 9 Awst 1907; adalwyd 20 Ebrill 2015
- ↑ Arnold J. James a John E. Thomas, Wales at Westminster: A History of the Parliamentry Representation of Wales, 1800-1979 (Gwasg Gomer, 1981)
- ↑ The Times, 17 Awst 1932 t12
- ↑ Cofrestr Claddu Eglwys Penrhyndeudraeth: blwyddyn 1932; tudalen 2; cofnod 1615. (Dan ofal Gwasanaeth Archifau Gwynedd)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon 1918 – 1922 |
Olynydd: Robert Thomas Jones |