Robert Thomas Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Thomas Jones
Robert Thomas Jones.jpg
Ganwyd 14 Hydref 1874 Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Rhagfyr 1940 Edit this on Wikidata (66 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth undebwr llafur, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Robert Thomas (R.T.) Jones, (14 Hydref, 187415 Rhagfyr, 1940) yn chwarelwr, undebwr llafur ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Sir Gaernarfon rhwng 1922 a 1923.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Jones ym Mlaenau Ffestiniog yn fab i David Jones, chwarelwr, ac Ellen (née Parry) ei wraig.

Cafodd addysg elfennol mewn ysgol gynradd ym Mlaenau gan ymadael a'r ysgol yn 13 mlwydd oed. Mae'n nodi yn ei gofnod yn Who's Who bod yr ysgol Sul a dosbarthiadau nos wedi chware rhan fawr yn ei addysg hefyd.[2]

Ni fu'n briod.

Undebwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Jones i weithio yn y chwareli llechi yn 13 mlwydd oed. Bu'n aelod o Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Gwasanaethodd fel cadeirydd cyfrinfa Ffestiniog o'r undeb cyn cael ei benodi'n ysgrifennydd cyllid ym 1908 [3] ac yn ysgrifennydd cyffredinol ym 1909.[4] Ef oedd ysgrifennydd cyffredinol cyntaf yr undeb i fod yn chwarelwr wrth ei waith a'r cyntaf i'w cyflogi fel swyddog undeb llawn amser.

Ym 1910 cafodd ei benodi'n aelod o Gomisiwn Brenhinol a benodwyd i ymchwilio i iechyd a diogelwch pobl a gyflogir mewn mwyngloddiau a chwareli.[5] Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn ym 1914.[6]

O dan ei arweiniad mabwysiadwyd rhaglen gyffredin, "Siarter y Chwarelwyr", ym 1911, a gafodd ei derbyn yn derfynol gan y perchnogion ym 1918. Bu'n aelod o gyngor cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) rhwng 1921 a 1932, Cynhaliodd Jones drafodaethau uno hir gydag Ernest Bevin a arweiniodd at gyfuno Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru gyda Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol ym 1923. Fodd bynnag, parhaodd yr undeb i ddefnyddio ei enw ei hun, a pharhaodd i gynnal llawer o'i fusnes mewn modd annibynnol. Cynhaliwyd bron i holl fusnes yr undeb yn y Gymraeg. Parhaodd Jones i fod yn ysgrifennydd cyffredinol yr undeb hyd iddo ymddeol ym 1933.[7]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylanwadwyd ar Jones gan sosialaeth y gweinidog lleol, Silyn Roberts. Gyda'i gilydd fe sefydlon nhw gangen o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP) yn ardal Ffestiniog.

Wedi marwolaeth William Jones, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Arfon ym 1915 cynigiwyd enw R T Jones i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer adain llafur y Blaid Ryddfrydol. Gwrthodwyd ystyried y cynnig oherwydd ei gysylltiad gyda'r ILP.[8] Dewiswyd Griffith Caradoc Rees fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol, ac oherwydd cytundeb rhwng y pleidiau i beidio â chystadlu isetholiadau yn ystod cyfnod Y Rhyfel Byd Cyntaf doedd yr ILP dim yn fodlon cefnogi Jones fel ymgeisydd chwaith.

Safodd fel ymgeisydd Llafur annibynnol yn etholaeth Sir Gaernarfon yn etholiad cyffredinol 1918 heb lwyddiant. Safodd eto yn yr un etholaeth yn etholiad cyffredinol 1922 fel ymgeisydd y Blaid Lafur gan gipio'r sedd. Collodd y sedd i'r Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1923. Safodd eto yn etholiadau 1924 a 1929 gan ddod yn ail ar y ddau achlysur.[9]

Gwasanaeth cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â'i waith fel undebwr bu Jones yn aelod o liaws o fyrddau cyhoeddus yng Nghymru.[1]. Gan gynnwys gwasanaethu fel:

  • Aelod o Bwyllgor Cyngor Dosbarth Trefol Blaenau Ffestiniog ar Reolwyr Ysgolion
  • Aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Drwyddedu (Cymru a Lloegr),
  • Is-reolydd Bwyd dros Ogledd Cymru ar gyfnod y Rhyfel byd Cyntaf [10]
  • Ysgrifennydd Ardal Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol ar gyfer Ardal Gogledd Cymru, 1924–33;
  • Ynad Heddwch
  • Comisiynydd Traffig (Ardal y Gogledd-orllewin)
  • Llywodraethwr Prifysgol Cymru (Bangor)

Roedd hefyd yn aelod amlwg o Gyfrinfa Moelwyn o'r Seiri Rhyddion.[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Thomas, D., (1953). JONES, ROBERT THOMAS (1874 - 1940), arweinydd Llafur. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 14 Maw 2019
  2. 2.0 2.1 (2007, December 01). Jones, Robert Thomas, (died 15 Dec. 1940), JP; Traffic Commissioner (North Western Area) since 1931; General Secretary North Wales Quarrymen’s Union 1908–33. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 14 Mawrth 2019
  3. "Blaenau Festiniog - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1908-04-03. https://hdl.handle.net/10107/3410811. Adalwyd 2019-03-14.
  4. "UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1909-02-04. https://hdl.handle.net/10107/3836302. Adalwyd 2019-03-14.
  5. "BLAENAU FESTINIOG - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1910-06-03. https://hdl.handle.net/10107/3411838. Adalwyd 2019-03-14.
  6. "YMCHWILIAD I FWYNFEYDD A CHWARELAU - Y Dinesydd Cymreig". s.t.. 1914-07-08. https://hdl.handle.net/10107/4014739. Adalwyd 2019-03-14.
  7. Jones, R. (2004, September 23). Jones, Robert Thomas (1874–1940), trade unionist. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Mawrth. 2019
  8. "SEDD WAG ARFON - Y Dinesydd Cymreig". s.t.. 1915-06-30. https://hdl.handle.net/10107/4015197. Adalwyd 2019-03-14.
  9. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  10. "CORNEL Y CHWARELWYR - Y Dinesydd Cymreig". s.t.. 1918-04-17. https://hdl.handle.net/10107/4016502. Adalwyd 2019-03-14.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Edward Breese
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon
19221923
Olynydd:
Goronwy Owen