Neidio i'r cynnwys

Mathau Goch

Oddi ar Wicipedia
Mathau Goch
Ganwydc. 1390 Edit this on Wikidata
Maelor Edit this on Wikidata
Bu farw5 Gorffennaf 1450 Edit this on Wikidata
Pont Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmilwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBrwydr Formigny Edit this on Wikidata

Un o filwyr enwocaf Cymru yn y 15g oedd Mathau Goch neu Mathew Gough (1386 - 6 Gorffennaf, 1450). Chwaraeodd ran flaenllaw yn rhan olaf y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc. Dathlwyd ei wrhydri gan feirdd Cymru, yn cynnwys Lewys Glyn Cothi, Guto'r Glyn ac Ieuan Deulwyn.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Mathau yn 1386 yn fab i Owain Goch (neu Gough), beili Hanmer yng nghantref Maelor, Dyffryn Dyfrdwy (Sir y Fflint ar y pryd, Wrecsam heddiw). Roedd ei fam yn ferch i David Hanmer. Ychydig a wyddys am ei hanes cynnar. Rywbryd tua 1420, efallai, aeth drosodd i Ffrainc fel milwr yng ngwasanaeth John Talbot (Iarll Amwythig yn nes ymlaen). Dyma gyfnod y Deddfau Penyd ar y Cymry, a basiwyd yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, a'r unig ffordd i ddianc rhag eu cyfyngiadau i nifer o Gymry ifainc oedd trwy fynd yn filwr hur yn rhyfeloedd Ffrainc.[1]

Daeth Mathau i amlygrwydd ym mrwydrau Cravant (1423) a Verneuil (1424) a chafodd ei hun yn gapten ar nifer sylweddol o farchogion a milwyr traed. Bu'n gapten ar dref gaerog Laval yn 1428. Ildiodd Beaugency i luoedd Jeanne d'Arc yn 1429, ar ôl gwarchae gan lu sylweddol mwy. Bu'n gapten ar ôl hynny ar sawl garsiwn arall, yn cynnwys Le Mans a Bayeux yn Normandi. Cafodd Mathau ei ddal gan y Ffrancod yn 1432 a cheir cywyddau gan y beirdd, yn galw am godi'r arian i dalu ei bridwerth (ransom), yr hyn a godwyd yn fuan. Dyma ran agoriadol cywydd i Fathau gan Guto'r Glyn:

Pan sonier i'n amser ni
Am undyn yn Normandi,
Mathau Goch, fab maeth y gwin,
Biau'r gair yn bwrw gwerin [h.y. milwyr].[2]

Fel milwyr proffesiynol eraill yn ei gyfnod, roedd yn barod i newid ochr. Ar ôl Cytundeb Tours (1445) cafwyd cadoediad rhwng Coron Lloegr a Ffrainc, a threuliodd Mathau gyfnod yn gwasanaethu brenin Ffrainc gan arwain catrawd i ymladd yn Alsace a Lorraine yn erbyn y Swisiaid. Daeth y Ffrancod i'w alw yn Mattagau ac i edmygu ei ddewrder.[1]

Yn 1450 bu'n bresennol ym mrwydr trychinebus Formigny. Roedd dyddiau grym Lloegr yn Ffrainc bron ar ben. Syrthiodd nifer o filwyr y Saeson, o sawl gwlad, yn y frwydr. Llwyddodd Mathau a 1500 o farchogion i dorri trwy rengoedd y Ffrancod a dianc, ond daliwyd ei gyfaill William Herbert ac eraill. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.[1]

Daeth i Lundain ar awr argyfyngus yn hanes Lloegr. Gyda'r wlad honno a Chymru yn cael ei rhwygo gan Rhyfeloedd y Rhosynnau, cododd Jack Cade i arwain gwŷr Caint mewn gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Goron. Ymsododd 20,000 o wŷr Caint ar Lundain. Lladdwyd Mathau ar noson y 5/6ed o Orffennaf yn amddiffyn Pont Llundain. Mawr fu'r galar ar ei ôl yng Nghymru. Yn ôl William o Gaerwrangon, mewn cerdd yn yr iaith Ladin:

Morte Matthei Goghe
Cambria clamitavit, Oghe!
('Ar farwolaeth Mathew Goch, / Yn ei galar, criai Cymru "Och!"')[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • H. T. Evans, 'Wales and the French Wars - Mathew Gough', Wales and the Wars of the Roses (Llundain, 1915; arg. newydd 1998).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 H. T. Evans, 'Wales and the French Wars - Mathew Gough', Wales and the Wars of the Roses (Llundain, 1915; arg. newydd 1998).
  2. Ifor Williams (gol.), Gwaith Guto'r Glyn (Caerdydd, 1939), tud. 8.