Richard Herbert
Richard Herbert | |
---|---|
Beddrod Richard Herbert yn Eglwys y Santes Fair ym Mhriordy'r Fenni. | |
Ganwyd | 15 g |
Bu farw | Gorffennaf 1469, 1469 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | William ap Thomas |
Mam | Gwladys ferch Dafydd Gam |
Priod | Margaret ap Thomas |
Plant | William Herbert, John Herbert, Richard Herbert, William ap Richard Herbert, William Herbert, Thomas ap Richard Herbert |
Marchog, Iorcydd a noddwr beirdd o'r Oesoedd Canol oedd Syr Rhisiart Herbert neu Richard Herbert o Golbrwg (bu farw 1469). Roedd yn frawd iau i William Herbert, Iarll Penfro ac yn fab i Syr William ap Thomas o Gastell Rhaglan a Gwladys ferch Dafydd Gam, ac yn ŵyr felly i Ddafydd Gam. Priododd Marged, chwaer Syr Rhys ap Thomas (1449 - 1525) un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru.
Fel ei frawd roedd yn deyrngar i'r Iorciaid yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Credir ei fod wedi ymladd ysgwydd wrth ysgwydd gyda’i frawd ym Mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd llu Siasbar Tudur gan Edward, mab dug Iorc. Ar ôl i Edward gael ei gydnabod yn frenin Lloegr, bu Rhisiart yn cyflawni swyddogaethau pwysig yn Ne Cymru e.e. oedd cyd-arweinydd yr ymgyrch yn erbyn Castell Carreg Cennen yn 1462. Yn 1468 arweiniodd treuan o fyddin Wiliam Herbert yn erbyn castell Harlech, a ddelid gan y Lancastriaid. Ar y ffordd yno fe drechodd lu Siasbar Tudur ger Dinbych. Gwobrwywyd ef a'i frawd Rhisiart Herbert yn hael gan y brenin a gwobrwywyd y ddau gyda lawer o diroedd yn swyddi Henffordd a Chaerloyw.
Daliwyd Rhisiart a'i frawd ym mrwydr Edgecote ar 24 Gorffennaf 1469, gan eu gelyn, Richard Neville, Iarll Warwick. Aethpwyd â'r ddau i Northampton lle cawsant eu dienyddio. Dygwyd corff Rhisiart yn ôl i’r Fenni a'i gladdu yno yn eglwys Priordy Mair ac mae ei feddrod ysblennydd yno hyd heddiw.
Perthnasau
[golygu | golygu cod]Ei wraig oedd Margred ferch Tomas ap Gruffudd ap Nicolas ac roedd ganddo fab o'r enw Wiliam o Golbrwg ac eraill o bosib. Roedd yn hanner brawd i feibion Syr Rhosier Fychan.
Noddwr y beirdd
[golygu | golygu cod]Canodd Bedo Brwynllys nifer o gerddi iddo, ac ystyrid ef yn un o noddwyr hael beirdd yr Uchelwyr. Erys un cywydd a erys iddo gan Guto’r Glyn a cheir awdl iddo gan Lewys Glyn Cothi, cywydd mawl gan Ieuan Deulwyn ac awdl gan Huw Cae Llwyd i’w fab, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg. Ceir hefyd ymryson rhwng Ieuan Deulwyn a Bedo Brwynllys a gynhaliwyd ar ei aelwyd ef yng Ngholbrwg. Yn olaf, ceir marwnadau gan Fedo Brwynllys (Lewis 1982: cerdd 30) a Hywel Dafi a marwnad i Risiart a’i frawd Wiliam, iarll Penfro, gan Huw Cae Llwyd.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ www.gutorglyn.net Archifwyd 2022-08-19 yn y Peiriant Wayback adalwyd 15 Medi 2015
Llyfryddiaeth
- Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Caerdydd)
- Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Caerdydd)
- Lewis, B.J. (2011), The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
- Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
- Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
- Smith, P. (1957), ‘Coldbrook House’, Arch Camb cvi: 64–71
- Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)