Gwladys ferch Dafydd Gam

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwladys ferch Dafydd Gam
Ganwyd 1443 Edit this on Wikidata
Bu farw 15G Edit this on Wikidata (-42 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Tad Dafydd Gam Edit this on Wikidata
Priod Roger Vaughan of Bredwardine, William ap Thomas Edit this on Wikidata
Plant Richard Herbert, William Herbert Edit this on Wikidata
Cofeb i Gwladys yn Eglwys y Santes Fair, Priordy'r Fenni, gyda'i gŵr William ap Thomas.

Un o uchelwyr yr Oesoedd Canol oedd Gwladys ferch Dafydd Gam (bu farw 1454) a merch Dafydd ap Llewelyn ap Hywel (a adnabyddir fel 'Dafydd Gam').[1]

Ei llysenw oedd Seren y Fenni ac fe'i cymharwyd yn y gorffennol gyda'r Frenhines Marchia am ei dylanwad a'i didwylledd.[2]

Oherwydd i'w thad ochri gyda'r Saeson yn erbyn Owain Glyn Dŵr, llosgwyd eu cartref ac erlidiwyd y teulu i Loegr, a chawasant gryn groeso gan frenin Lloegr sef Harri IV a [3][4] gweithiodd Gwladys fel morwyn i'r frenhines Mary de Bohun (c. 1368–1394), ac yna i Joan of Navarre, (c. 1370–1437), ei ail-wraig.[5][6]

Priododd ddwywaith, y tro cyntaf i Syr Roger Vaughan a fu farw gyda'i thad ym Mrwydr Agincourt a'r ail dro i William ap Thomas o Gastell Rhaglan.

Bu farw yn 1454 ac fe'i chladdwyd ym Mhriordy'r Fenni, ble roedd gyda William ei gŵr yn noddwyr. Yno, yn Eglwys y Santes Fair, ceir cofeb alabaster i'r ddau. Wedi ei marwolaeth ysgrifennodd Lewys Glyn Cothi marwnad iddi sy’n cychwyn efo’r geiriau:

Y Seren o y Fenni
At Dduw a’r saint y troes hi;
Gwladys, lwyddiannus ddi-nam
Oedd o gorff syr Dafydd Gam.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Prichard pp. 431-433
  2. Prichard p. 441
  3. Wilkins, C (1879). Tales and Sketches of Wales. Cardiff: Daniel Owen, Howell & Company. p. 15. OCLC 13012228. 
  4. Prichard p. 421
  5. Hodgdon & Thomas pp. 128-129
  6. Burke, J.; Burke, J. B. (1847). A Genealogical and Heraldic Dictionary of the Landed Gentry of Great Britain 2. London: Henry Colburn. p. 1471. 
  7. Gwaith Lewis Glyn Cothi, The Poetical Works of Lewis Glyn Cothi, Y Cymrodorion, 1837; Tud 1 Marwnad Gwladus Erch Davydd Gam adalwyd 20 Awst 2017