Henry Percy, 4ydd iarll Northumberland
Henry Percy, 4ydd iarll Northumberland | |
---|---|
Ganwyd | c. 1449 Leconfield |
Bu farw | 28 Ebrill 1489 South Kilvington |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Lord Lieutenant of Northumberland |
Tad | Henri Percy |
Mam | Eleanor de Poynings |
Priod | Maud Herbert |
Plant | Eleanor Percy, Henry Percy, Alan Percy, Sir William Percy, Jocelyn Percy, Lady Elizabeth Percy, Anne Percy, Maud Percy |
Llinach | teulu Percy |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Uchelwr a thirfeddianwr oedd Henry Percy, 4ydd iarll Northumberland (c. 1449 – 28 Ebrill 1489)[1] a ymladdodd dros y Lancastriaid yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Collodd ei deitl pan laddwyd ei dad mewn brwydr yn erbyn yr Iorciaid. Yn ddiweddarach adenillodd y teitl. Arweiniodd ran helaeth o fyddin Richard III ym Mrwydr Maes Bosworth yn Awst 1485 ond ni roddodd orchymyn iddynt ymladd. Fe'i carcharwyd gan Harri Tudur, concwerwr Maes Bosworth am ymladd yn ei erbyn, ond fe ailsefydlwyd Percy i'w deitl yn ddiweddarach. Cafodd ei lofruddio gan werin dinas Efrog, oherwydd ei fod yn codi trethi uchel arnynt.
Llinach
[golygu | golygu cod]Roedd Percy yn fab i Henry Percy, 3ydd iarll Northumberland a'i wraig Eleanor Poynings, merch Syr Richard Poynings (m. 10 Mehefin 1429). Ymhlith cefndryd cyntaf ei dad oedd Edward IV, Margaret of York, George, dug Clarence, a Richard III. Ei hen daid oedd Henry 'Hotspur' Percy a wrthryfelodd yn 1403 erbyn Harri IV, ac a wnaeth gytundeb gydag Owain Glyn Dŵr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Library (2007). The Durham Liber Vitae: Prosopographical commentary (yn Saesneg). British Library. t. 546. ISBN 978-0-7123-4997-0.