Castell Biwmares
![]() | |
Math |
castell ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd, Ardaloedd Cadwriaeth Biwmares ![]() |
Lleoliad |
Biwmares ![]() |
Sir |
Biwmares ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
6 ha, 2 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
53.264908°N 4.08957°W ![]() |
Rheolir gan |
Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Edward I ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, rhan o Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Sefydlwydwyd gan |
Edward I ![]() |
Manylion | |
Deunydd |
calchfaen ![]() |
Dynodwr Cadw |
AN001 ![]() |
Castell ar gyrion tref Biwmares, Ynys Môn yw Castell Biwmares.
Cafodd ei gynllunio gan James o St George yn gastell consentrig gyda ffos o'i gwmpas. Fe'i adeiladwyd ar lan Afon Menai gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1295 a 1298, ar ôl gwthryfel Madog ap Llywelyn. Dinistriwyd tref Llan-faes yn y gwrthryfel hwnnw, a chafodd rhai o'r cerrig o'r fynachlog enwog eu defnyddio i godi'r castell. Am ryw reswm chafodd y castell byth ei gwblhau.
Cipiwyd y castell gan gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel y tywysog.
Ar 27 Gorffennaf 1593, cafodd yr offeiriad Catholig o Gymro William Davies, a gofir am ei ran yng nghyhoeddi Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, ei ddienyddio yn y castell trwy ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Canoneiddwyd William Davies gan y Pab yn 1987.
Adeg Rhyfel Cartref Lloegr roedd castell Biwmares mewn man allweddol gan ei fod yn rheoli rhan o'r daith rhwng Iwerddon a Lloegr. Roedd teulu Thomas Bulkeley, wedi bod yn ymwneud a rheoli'r castell am ganrifoedd ac roedd Thomas Bulkeley yn gefnogol i'r Brenin. Erbyn 1646 roedd y Pengryniaid wedi cael buddugoliaeth ar luoedd y brenin. Gwrthryfeloedd Ynys Môn yn erbyn y Senedd eto yn 1648, ond bu rhaid iddyn nhw ildio yr ail waith yn yr Hydref.
Cynhaliwyd eisteddfod yng nghwrt y castell yn 1832.
Mae'r castell yng ngofal Cadw, ac mae'n un o'r atyniadau pennaf i dwristiaid ym Môn. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.