Hugh Hughes (arlunydd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hugh Hughes
MAp Hugh.PNG
"Modryb Gwen": ysgythriad a wnaed gan Hugh Hughes rhwng 1840 ac 1847.
Ffugenw Cristion Edit this on Wikidata
Ganwyd 20 Chwefror 1790 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd 20 Chwefror 1790 Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Mawrth 1863 Edit this on Wikidata (73 oed)
Malvern Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth arlunydd, Awdur, engrafwr, gwneuthurwr printiau, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Castell Caernarfon gan Hugh Hughes; ysgythriad du a gwyn a wnaeth tua 1850.
Meddiant Uchaf, cartref plentyndod Hughes

Arlunydd Cymreig oedd Hugh Hughes (1790?–11 Mawrth 1863) a aned ym Mhwll y Gwichiaid ger Llandudno, Gwynedd.

Efallai mai gwaith mwyaf nodedig Hugh Hughes ydy'r map a elwir yn 'Fap Modryb Gwen', neu Dame Venedotia.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hugh yn fab i Thomas Hughes a'i wraig Jane a cheir cofnod iddo gael ei fedyddio yn eglwys y plwyf ar 20 Chwefror 1790. Bu farw ei rieni pan oedd yn blentyn ifanc, ei fam yn 1802, a'i dad ychydig wedyn, ac fe'i maged gan ei daid ar ochr ei fam, Hugh Hughes yn ardal Meddiant, Llansanffraid Glan Conwy a arferai fod yn Sir Ddinbych ond sydd bellach ym Mwrdeisdref Sirol Conwy. Athro yn y Meddiant oedd ei daid ac ef a fu'n gyfrifol am addysgu Hugh. Yna, bu Hughes yn brentis i ysgythrwr yn Lerpwl cyn symud i Lundain lle cafodd wersi peintio mewn olew.[1]

Dychweldd i fferm y teulu yn 1819 am gyfnod o dair blynedd, gan weithio ar ei Beauties of Cambria, ei waith enwocaf, o bosib. Ei waith cynharaf o'i eiddo sydd wedi goroesi yw ei ddarlun adnabyddus o John Evans o'r Bala a ailgyhoeddwyd yn Y Drysorfa yn 1812.

Teithiodd Gymru yn 1819-21 gan dynnu lluniau ac argraffwyd y rhannau o'r teithiau hynny yn Wales (O.M. Edwards; 1819-20) a rhannau yn Cymru (O.M. Edwards; 1820-1). Yn 1823 cyhoeddodd gwaith adnabyddus arall, The Beauties of Cambria sy'n cynnwys 60 o ddarluniau ganddo.

Awdur[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Meddiant y paratodd lawer o'i waith a daeth i adnabod David Charles (1762 - 1834) yr emynydd, a brawd Thomas Charles. Dechreuodd gyhoeddi llyfrau a chylchgronau yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys: Yr Hynafion Cymreig, 1823-4 , Yr Adolygydd, 1823-4 a Brut y Cymry (un rhifyn), 1824. Cyhoeddodd amryw ym mlynyddoedd olaf ei oes gan gynnwys pregethau ei dad-yng-nghyfraith, gyda chofiant, yn ogystal â thoreth o luniau a digrifluniau yn enwedig ar bwnc Brad y Llyfrau Gleision).

Priodi a throi at yr Annibynwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 20 Chwefror 1827, priododd Sarah, merch David Charles, ac symudodd y ddau i fyw i Soho, Llundain. Ychydig wedyn, yn 1828 (neu 1829), arwyddodd ddeiseb dros 'Ddeddf Rhyddfreiniad y Catholigion' (Catholic Emancipation Bill). Cafodd ei ddiarddel gan John Elias o Eglwys Galfinaidd Jewin yn Llundain a chadarnhawyd hynny gan sasiynau'r Gogledd a'r Deheudir. Beirniadodd Hughes y penderfyniad mewn pamffledi (Y Trefnyddion a'r Pabyddion) ac mewn llythyrau a gyhoeddwyd yn Seren Gomer (1828–30) ac ymosod yn ffyrnig ar arweinyddion y Methodistiaid Calfinaidd yn enwedig John Elias. Roedd Hughes eisoes yn Rhyddfrydwr, ond troes hyn ef yn Radical fflamboeth ac ymunodd â'r Annibynwyr.[2]

Caernarfon, Caerlleon a mannau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Daliodd i fyw yn Llundain am beth amser (ceir darlith ganddo i'r Cymreigyddion yn Seren Gomer 1831), ac erbyn 1835 roedd yng Nghaernarfon, yn cynorthwyo Caledfryn gyda'r Seren Ogleddol (1835) ac yn cychwyn y Papur Newydd Cymraeg yn 1836 . Bu'n byw wedyn yng Nghaerllion (1839), Abermaw (1841), Aberystwyth a Malvern lle y bu farw ar 11 Mawrth 1863.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Lee, Sidney, gol,. (1891). "Hughes, Hugh (1790?-1863)" . Dictionary of National Biography. 28. Llundain: Smith, Elder & Co.
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 11 Mawrth 2017.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor (awdur yr erthygl yn y Bywgrffiadur
  • Enwogion Sir Gaernarfon, 1922
  • Oxford Dictionary of National Biography
  • NLW MSS 1890 , 6358;