Tydecho

Oddi ar Wicipedia
Tydecho
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeudwy, arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl17 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadAnnun Ddu Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Tydecho (fl. 6g). Roedd yn nawddsant cwmwd Mawddwy, (Teyrnas Powys gynt; Gwynedd heddiw). Dethlir ei wylmabsant ar 17 Rhagfyr.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn a wyddom amdano. Ein prif ffynhonnell yw'r cywydd iddo gan y brudiwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn, Mawddwy. Dywed y bardd i'r sant ymsefydlu yng nghyffiniau Mathafarn a chodi cell yno. Cofnodir y gerdd y traddodiad fod y brenin Maelgwn Gwynedd wedi aflonyddu arno a'i ddilynwyr, ond gan fod hyn yn wir am hanes rhai o'r seintiau cynnar eraill hefyd ni ellir rhoi gormod o bwyslais arno.[1]

Yn ôl traddodiad, roedd yn fab i Annwn Ddu ab Emyr Llydaw. Cyfeirir ato hefyd ym Muchedd Padarn, ond heb ychwanegu llawer at y wybodaeth amdano. Ymddengys, yn ôl dosbarthiad yr eglwysi a gysegrir iddo, fod y sant a'i gymdeithion wedi cyrraedd arfordir Meirionnydd dros y môr ac iddynt dreiddio i'r tir ac ymsefydlu yn ardal Mawddwy.[1]

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn, gol. W. Leslie Richards (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964)