Mawddwy (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Mawddwy
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Powys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Erthygl am y cwmwd hanesyddol yw hon. Am y gymuned fodern, gweler Mawddwy.

Cwmwd hanesyddol ym Meirionnydd oedd Mawddwy.

Yn wreiddiol oedd Mawddwy yn deyrnas annibynnol ond yn ddiweddarach daeth yn rhan o Bowys. Wedi hynny, pan basiwyd Y Deddfau Uno 1536 a 1543, daeth yr ardal yn rhan o Sir Feirionnydd ac mae'n awr yng Ngwynedd. Mae'r enw yn parhau i gael ei ddefnyddio am yr ardal, sef y tiriogaethau o gwmpas rhan uchaf Afon Dyfi, sy'n tarddu ar lethrau Aran Fawddwy ac yn llifo tua'r de-orllewin. Heblaw Aran Fawddwy, ceir yn enw ym mhentrefi Dinas Mawddwy a Llanymawddwy.

Daeth yr ardal yn enwog oherwydd campau Gwylliaid Cochion Mawddwy. Mae hefyd hen rigwm braidd yn enllibus am yr ardal:

O Fawddwy tri peth a ddaw:
Dyn cas, nôd glas a glaw.

Rhennir yr hen gwmwd yn ddau blwyf, sef plwyf Mallwyd i'r de a phlwyf Llanymawddwy i'r gogledd. Fel Penllyn ac Edeirnion mae'n rhan o esgobaeth Llanelwy tra bod gweddill yr hen sir yn rhan o esgobaeth Bangor. Mallwyd oedd prif ganolfan eglwysig y blwyf.

Mae'n bosibl fod Yr Ustus Llwyd, bardd dychanol a fu byw yn y 14g, yn frodor o Fawddwy.

Aran Fawddwy: enwir y mynydd ar ôl yr hen gwmwd

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]