Gronw Ddu o Fôn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gronw Ddu o Fôn
GanwydYnys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd15 g Edit this on Wikidata

Brudiwr, yn ôl traddodiad, oedd Gronw Ddu o Fôn (bl. 15g). Ni wyddom i sicrwydd os oedd yn fardd cig a gwaed neu beidio, ond mae'r canu darogan a dadogir arno yn dyddio o'r 15g.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir bardd arall o'r enw Gronw Ddu a flodeai ar ganol y 14g. Mae lle da i gredu mai Gronw Ddu ap Tudur ap Heilyn oedd y bardd hwnnw, ei fod yn frodor o Fôn ac yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan. Mae'n eithaf tebygol felly mai cerddi a dadogwyd ar y bardd cynharach gan frudwyr anhysbys yw brudiau 'Gronw Ddu o Fôn' yn hytrach na gwaith unigolyn; dyma a welir yn y canu darogan yn achos beirdd fel Taliesin (6g), sy'n "awdur" nifer fawr o gerddi darogan canoloesol (gweler Taliesin Ben Beirdd).[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir ar glawr tua dwsin o frudiau yn enw Gronw Ddu o Fôn sydd i'w dyddio i'r 15g ac yn enwedig cyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau ac ymgyrch Harri Tudur. Maent yn cynnwys englyn gwladgarol a roddir yn enau Goronwy ab Ednyfed Fychan yn cwyno am ladd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ond y testun mwyaf adnabyddus a gysylltir â Gronw yw 'Breuddwyd Gronw Ddu', cerdd ddarogan ar y mesurau rhydd gyda rhagymadrodd rhyddiaith sy'n perthyn i gyfnod ymgyrch Harri Tudur i gipio Coron Lloegr ac felly i'w dyddio i tua 1485, er ei bod wedi ei lleoli yn y 14g fel gweledigaeth gan y Gronw Ddu cynharach.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Gronw Ddu', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Gronw Ddu'.