Tudur ab Ednyfed

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Tudur ab Ednyfed (fl. c. 1220 - 1278) oedd mab Ednyfed Fychan a distain (canghellor) Teyrnas Gwynedd a Chymru o 1268 hyd 1278 yng ngwasanaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Ei frawd oedd Goronwy ab Ednyfed (m. 1268), yntau'n ddistain Gwynedd.

Dechreuodd Tudur ei yrfa gweinyddol fel rhaglaw Dinorben (neu Ddinbych) (c. 1240 - 1245) yn ystod teyrnasiad Dafydd ap Llywelyn. Yn 1245 ymosododd Harri III o Loegr ar Wynedd. Llwyddodd rhyfelwyr Gwynedd i drechu llu'r Saeson ar lannau Afon Conwy, ond cipiwyd nifer o uchelwyr y Berfeddwlad yn garcharorion ganddo, ac yn eu plith oedd Tudur ab Ednyfed. Fe'i rhyddhawyd gyda'r lleill ym mis Medi 1246 ar ôl i Dafydd a Harri gytuno ar heddwch.[1]

Bu'n gennad i Lywelyn ap Gruffudd ar sawl achlysur cyn cael ei benodi'n ddistain — swydd bwysicaf y deyrnas — ar farwolaeth ei frawd yn 1268. Yn Rhagfyr 1263 roedd yn bresennol pan ymostyngodd Gruffudd ap Gwenwynwyn i Lywelyn a gweithredodd i drefnu terfynau tir Gruffudd mewn perthynas â thiriogaeth Llywelyn. Sonnir amdano yn nogfennau Cytundeb Trefaldwyn (1267) ac fel cynrychiolydd Llywelyn mewn trafodaethau â Gilbert de Clare yn 1268. Yn 1277, gyda Goronwy ap Heilyn, cynrychiolodd Lywelyn yn y trafodaethau â chynrhychiolwyr Edward I o Loegr yn Abaty Aberconwy a arweiniodd at Gytundeb Aberconwy. Ni cheir sôn amdano yn y cofnodion swyddogol ar ôl diwedd 1277 a chredir iddo farw y flwyddyn ganlynol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Tud. 53-4.
  • David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984). Tud. 11-13 et passim; Atodiad II.
O'i flaen :
Goronwy ab Ednyfed
Disteiniaid Gwynedd
Tudur ab Ednyfed
Olynydd :
Goronwy ap Heilyn