Ieuan ap Gruffudd Leiaf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Uchelwr, bardd a gyfoeswr i Rhys Goch Eryri a Guto'r Glyn oedd Ieuan ap Gruffudd Leiaf (fl. c. 1420 - c. 1470). Ni ellir rhoi terfynau pendant ar ei einioes, ond o ystyried ei farddoniaeth, gellir cynnig c. 1395 – c. 1470 yn fras. Cafodd ei dad Gruffudd Leiaf ei enwi mewn deiseb i’r brenin (Rhisiart II) ym 1390, ynghyd â’i daid Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch a’i ewythredd Hywel Coetmor, Rhys Gethin a Robert. Ym mis Mawrth 1397, bu Hywel Coetmor a’i frodyr Robert, Rhys Gethin a Gruffudd Leiaf yn ysgutorion ewyllys Gruffudd Fychan. Roedd Gruffudd ap Dafydd Goch, tad Gruffudd Fychan a hendaid Ieuan, yn farchog ac yn pen-rheithiwr rheithgor Nant Conwy, a roes dystiolaeth i awdurdodau’r Goron ar gyfer ystent 1352. Yn ôl Peter Bartrum, plentyn gordderch Dafydd ap Gruffudd ap Llywelyn ap Iorwerth oedd Dafydd Goch, gorhendaid Ieuan. Priododd Dafydd Goch ddwywaith. Angharad (2il) ferch Heilin o dylwyth Marchudd oedd y wraig gyntaf, a chawsant o leiaf dau o blant, sef Gwenllïan a Llywarch. Angharad ferch Tudur oedd yr ail wraig. Erys rhywfaint o ansicrwydd ynghylch pa wraig oedd mam y trydydd plentyn, sef Gruffudd. O gymryd mai Angharad (2il) ferch Heilin oedd mam Gruffudd ap Dafydd Goch, dyma gysylltiad uniongyrchol â Barwniaid Edeirnion: yr oedd yr Angharad hon yn ferch i Annes, ferch Owain ap Bleddyn ab Owain Brogyntyn. Roedd Owain Brogyntyn yn arglwydd Dinmael ac Edeirnion ac yn fab (er y tu allan i rwymau priodas) i Madog ap Maredudd o hen deulu brenhinol Powys. Gellir ystyried ateb Guto’r Glyn yn yr ymryson rhyngddo ac Ieuan ap Gruffudd Leiaf yn gadarnhad o’r cysylltiad teuluol hwn.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygwyd ei waith barddonol (sy'n cwmpasu'r cyfnod c.1420 i c. 1470) yn llawn.[2][3] Cywydd mawl i Gwilym ap Gruffudd ap Gwilym ap Gruffudd ap Heilin (m. 1431) a'i lys newydd, Y Penrhyn, Llandygái (adeiladwyd c. 1420[4]) yw'r gerdd ddyddiadwy gynharaf y gellir ei phriodoli'n hyderus iddo. Golygwyd y cywydd hwn gan B. O. Huws.[5] Ymddengys mai traddodiad y cyff clêr yw cyd-destun y cywydd, a'r prifardd newydd yn ateb gwawdiau'r beirdd israddol.[6] Roedd Rhys Goch Eryri yn bresennol yn y dathlu, a chyfansoddodd ef hefyd gywydd mawl i'r Penrhyn a'i berchennog.[7][8] Yn fuan wedyn, cyfansoddodd Ieuan gywydd dychan i afon Llugwy, ar ôl i'r bardd syrthio iddi ar ei ffordd i'r Penrhyn adeg y Nadolig. Gallai cywydd i Santes Anna, mam y Forwyn Fair a dwy Fair arall, a briodolir i Ieuan yn yr unig lawysgrif ar ôl sy'n ei gynnwys, fod o'r un cyfnod neu'n gynharach.

Cyfansoddodd Ieuan gywydd mawl i Hywel ab Ieuan Fychan ab Ieuan Gethin a'i wraig Elen o Foelyrch, Llansilin ar achlysur ailgodi'r llys c. 1450. Chwalwyd Moelyrch yn ystod Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, yn fwy na thebyg ar yr un pryd â dinistr Sycharth, llys Owain Glyn Dŵr ei hun.[9] Dyma achlysur tebygol yr ymryson rhwng Ieuan a Guto'r Glyn, a oedd hefyd yn bresennol yn y dathlu (ac a gyflwynodd gywydd mawl ei hun yno). Pwysleisiodd Jerry Hunter fod ymrysonau'r cywyddwyr yn ymwneud â rhyw agwedd neu'i gilydd ar y gyfundrefn farddol. Yn draddodiadol, cyfyngwyd swydd y bardd proffesiynol i feibion ieuengaf y boneddigion, ond gan nad oedd digon o feirdd da ar gael fel hyn, agorwyd y swydd i bobl eraill.[10]

Uchelwr ac un o arweinwyr y Lancastriaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau oedd Dafydd ap Siencyn ap Dafydd ab y Crach. Dyn beiddgar o gorfforaeth fawr, yr oedd Dafydd ar herw yn y coedwigoedd uwchlaw Llanrwst yn y 1460'au, a dyma adeg y cyfansoddodd Ieuan gywydd mawl iddo. Llwyddodd Dafydd i rwystro'r lluoedd Iorcaidd rhag mynd i Nanconwy tan 1468.

Cerdd arall gan Ieuan, sydd hefyd yn fwy na thebyg yn dyddio i'r 1460'au, yw ei gywydd i'r fwrdeistref drefedigaethol Aberconwy a'i chwrw. Traidd amwysedd y bardd tuag at Aberconwy a'i bwrdeiswyr trwy'r cywydd, o'r cwpled cyntaf: Y ddewistref ddiestron, / A'r gaer deg ar gwr y don. Ar y llaw arall, y mae canmoliaeth y bardd yn achos cwrw Aberconwy yn ddiamod. Rhagora cwrw Aberconwy ar gwrw sawl tref arall, gan gynnwys Henffordd, Amwythig, Llwydlo a Gweblai, ac yn wir geill y cwrw hwn gyflawni gwyrthiau ar y sawl a'i hyfo: Sef yna, os yf anael / O'i fwnai hen ef â'n hael; / Ac os yf un gwas afiach, / O'i feddwi ef e fydd iach!

Priodolwyd nifer o gywyddau brud i Ieuan gan wahanol gopïwyr, ond yn achos un yn unig y ceir unfryd farn, sef cywydd ymddiddan rhwng y bardd ac eog Llyn Llyw, un o'r anifeiliaid hynaf. Er nad oes tystiolaeth fewnol bendant ynghylch dyddiad tebygol y cywydd hwn, y mae ystyriaethau cynganeddol yn awgrymu rhywbryd yn y 1440'au. Gallai cywydd ymddiddan rhwng y bardd a Charnedd Llywelyn sy'n dechrau gyda'r cwpled Rhydew gyrn, rho Duw, Garnedd, / Rhan y gwynt, rhewinawg wedd, fod yn waith Ieuan, ond y mae mwyafrif y copïwyr yn ei briodoli i Rhys Goch Eryri.

Plant[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu gan Ieuan ap Gruffudd Leiaf dau fab, sef Robert Leiaf a Syr Siôn Leiaf, a'r ddau hefyd yn feirdd. Golygwyd eu gwaith hwythau yn ogystal.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Taylor, John Bernard, 'Gwaith barddonol Ieuan ap Gruffudd Leiaf, Robert Leiaf, Syr Siôn Leiaf a Rhys Goch Glyndyfrdwy' (Ph.D. Bangor, 2014), tt. 3 - 6.
  2. Taylor, John Bernard. "Gwaith barddonol Ieuan ap Gruffudd Leiaf, Robert Leiaf, Syr Siôn Leiaf a Rhys Goch Glyndyfrdwy (PhD Thesis), Bangor University, 2014". eBangor. Bangor University. Cyrchwyd 31 July 2016.
  3. Taylor, John Bernard, 'Cipolwg ar Waith Ieuan ap Gruffudd Leiaf', Dwned 22 (2016), 11 - 24.
  4. Jones, J. R., 'The development of the Penrhyn estate to 1431' (M.A. thesis, University of Wales, 1955), 217.
  5. Huws, Bleddyn Owen, 'Adeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch', Dwned 13 (2007), 97 - 137.
  6. Gweler e.e. Hunter, J., 'Cyd-destunoli Ymrysonau'r Cywyddwyr', yn Huws, B. O. a Lake, A. Cynfael, Genres y Cywydd (Y Lolfa, 2016), tt. 93 - 108.
  7. Foster Evans, Dylan, Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), tt. 49 - 54, 157 - 167.
  8. Bowen, D. J., 'Y Canu i Gwilym ap Gruffudd (m. 1431) o'r Penrhyn a'i Fab Gwilym Fychan (m. 1483)', Dwned, 8 (2002), 59 - 78.
  9. Huws, Bleddyn Owen, 'Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch', Dwned 13 (2007), 97 - 137.
  10. Einir Gwenllian Thomas, 'Astudiaeth destunol o Statud Gruffudd ap Cynan' (Ph.D. Cymru [Bangor], 2001), tt. 49 - 50.
  11. Taylor, John Bernard, "Gwaith barddonol...", 132 - 258