Thomas Cromwell
Thomas Cromwell | |
---|---|
Ganwyd | c. 1485 Putney |
Bu farw | 28 Gorffennaf 1540 o pendoriad Tower Hill |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, barnwr, cyfreithiwr |
Swydd | Member of the 1523 Parliament, Lord Great Chamberlain, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Meistr y Rolau, Canghellor y Trysorlys, Member of the 1529-36 Parliament, Member of the 1536 Parliament, Master of the Jewel Office |
Tad | Walter Cromwell |
Mam | Katherine Glossop |
Priod | Elizabeth Wyckes |
Plant | Gregory Cromwell, Anne Cromwell, Grace Cromwell, Jane Cromwell |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Roedd Thomas Cromwell, Iarll 1af Essex (c.1485 – 28 Gorffennaf 1540) yn gyfreithiwr a gwladweinydd o Loegr a fu’n gwasanaethu Harri VIII fel ei Brif Weinidog rhwng 1532 a 1540. Yn 1540 dienyddiwyd ef ar orchymyn y Brenin.
Roedd Cromwell yn un o gefnogwyr mwyaf dylanwadol a phwerus Diwygiad Lloegr. Roedd yn unigolyn hollbwysig wrth gynllunio sut i ddiddymu priodas y Brenin Harri VIII a Catrin o Aragon fel bod Harri yn medru priodi Anne Boleyn yn gyfreithlon. Methodd Harri gael sêl bendith y Pab i ysgaru Catrin yn 1534, felly cefnogodd y Senedd hawl y Brenin i fod yn Ben Goruchaf Eglwys Lloegr, a fyddai’n rhoi’r awdurdod iddo ddiddymu ei briodas ei hun. Byddai felly yn gallu ysgaru Catrin.
Cromwell hefyd oedd yn gyfrifol am drefnu Diddymu’r Mynachlogydd, gan gynnwys llawer yng Nghymru.[1] O ganlyniad i hyn, cafodd llawer o lyfrau oedd ym mherchnogaeth y mynachlogydd eu dinistrio, sef llyfrau a ddisgrifiwyd fel rhai ‘pabaidd’ ac ‘ofergoelus’. Disgrifiwyd cau’r mynachlogydd fel y gyflafan waethaf erioed yn hanes llenyddol Lloegr. Oherwydd hynny, ni fu casgliad llenyddol ym Mhrifysgol Rhydychen nes rhoddodd Syr Thomas Bodley ei gasgliad i'r Brifysgol yn 1602.[2]
Yn ystod ei esgyniad i bŵer, roedd Cromwell wedi denu llawer o elyniaeth ac felly wedi dod i wrthdaro â llawer o elynion - yn eu plith, Anne Boleyn.[3] Roedd Cromwell yn ffigwr allweddol ym mhenderfyniad y Brenin Harri i orchymyn dienyddiad Anne. Serch hynny, collodd ffafr y Brenin Harri, wedi iddo drefnu’r briodas aflwyddiannus rhwng y Brenin a’r dywysoges o’r Almaen, Anne o Cleves, sef pedwaredd priodas Harri. Roedd Cromwell wedi gobeithio y byddai’r briodas yn rhoi egni newydd i’r Diwygiad yn Lloegr, ond daeth y briodas i ben ar ôl chwe mis. Dienyddiwyd Cromwell ar Tower Hill, ar 28 Gorffennaf 1540 ar sail teyrnfradwriaeth a heresi. Yn ddiweddarach, dywedodd Harri VIII ei fod yn difaru colli ei Brif Weinidog.[4]
Mae rhai haneswyr yn dadlau bod Thomas Cromwell wedi bod yn ddylanwad pwysig ar yrfaoedd gwleidyddion a gweinyddwyr pwysicaf teyrnasiad Elisabeth I - er enghraifft, William Cecil a Nicholas Bacon.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Mynachlogydd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-07.
- ↑ Lawson, John, 1913- (2007). Mediaeval education and the Reformation. London: Routledge. ISBN 978-0-203-70710-4. OCLC 846968343.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Herman, Peter C., 1958- (2011). A short history of early modern England : subjects, rulers and rebels. Chichester, West Sussex: Wiley-Blackwell. ISBN 978-1-4443-9497-9. OCLC 769189130.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hutchinson, Robert, 1948- (2008). Thomas Cromwell : the rise and fall of Henry VIII's most notorious minister. London: Phoenix. ISBN 978-0-7538-2361-3. OCLC 181069188.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ MacCulloch, Diarmaid,. Thomas Cromwell : a life. [London]. tt. 500–501. ISBN 978-1-84614-429-5. OCLC 1055684132.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)