Anne o Cleves

Oddi ar Wicipedia
Anne o Cleves
AnneCleves.jpg
Ganwyd22 Medi 1515, 28 Mehefin 1515 Edit this on Wikidata
Düsseldorf Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 1557, 17 Gorffennaf 1557 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
Swyddcymar teyrn Lloegr Edit this on Wikidata
TadJohn III, Duke of Cleves Edit this on Wikidata
MamMaria of Jülich-Berg Edit this on Wikidata
PriodHarri VIII Edit this on Wikidata
PerthnasauMarie Eleonore of Cleves, Mari I, Elisabeth I, Edward VI Edit this on Wikidata
LlinachY Teulu La Marck Edit this on Wikidata
llofnod
Anne of Cleves Signature.svg

Y bedwaredd o chwech gwraig Harri VIII, brenin Lloegr, oedd Anne o Cleves (22 Medi 1515 - 16 Gorffennaf 1557). Dim ond am chwe mis y parodd y briodas (Ionawr - Gorffennaf, 1540) cyn i Harri ei hysgaru.

Fe'i ganed yn Düsseldorf,[1] yn ferch i Ioan III, Dug Cleves, a'i wraig Maria. Priododd Harri ar 6 Ionawr 1540, yn y Palas Placentia, Greenwich.

Comisiynodd Harri yr arlunydd Hans Holbein yr Ieuaf i beintio llun ohoni (a'i chwaer Amelia) gan fynnu y dylai Hans beintio llun gonest ohoni. Peintiodd ddau lun ac mae'r naill i'w weld yn y Louvre a'r llall yn y Victoria and Albert Museum, Llundain. Arwyddwyd y Cytundeb Priodasol yn Hydref 1539, wedi i Harri glywed fod Anne yn ferch dawel a oedd yn hoff iawn o chwarae cardiau a gwnïo. Cyfarfu'r ddau ar Ddydd Calan 1540, ac ym marn Harri, doedd hi ddim hanner mor ddel, ni allai ddarllen Saesneg ac nid oedd wedi derbyn addysg ffurfiol: She is nothing so fair as she hath been reported, dywedodd.[2] Ymbiliodd Harri i Cromwell ddarganfod ffordd o beidio'i phriodi, heb droi'r Almaen yn eu herbyn.

Gan na chysgodd y ddau gyda'i gilydd ni choronwyd hi'n llwyr a galwyd hi'n 'Chwaer Annwyl y Brenin' (King's Beloved Sister). Rhoddwyd setliad ariannol hael iddi a chadwodd ei phen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David Williamson (1986). Debrett's Kings and Queens of Britain (yn Saesneg). Salem House. t. 123. ISBN 978-0-88162-213-3.
  2. Schofield, John (2011). The Rise & Fall of Thomas Cromwell: Henry VIII's Most Faithful Servant. t. 361.
Baner Yr AlmaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Almaenwr neu Almaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.