Brwydr Sain Ffagan
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 8 Mai 1648 |
Rhan o | Ail Ryfel Cartref Lloegr |
Lleoliad | Sain Ffagan |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ymladdwyd Brwydr Sain Ffagan ar 8 Mai 1648, yn Sain Ffagan, de Cymru rhwng byddin y senedd dan y Cyrnol Thomas Horton a byddin o gyn-filwyr y Senedd oedd wedi troi i gefnogi'r brenin Siarl I o Loegr a'r Alban. Roedd yn un o frwydrau Ail Ryfel Cartref Lloegr.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn Ebrill 1648, bu gwrthryfel ymysg milwyr y Senedd yn Ne Cymru, oedd heb gael eu tâl am gryn amser. Dan arweiniad y Cyrnol John Poyer, llywodraethwr Castell Penfro, ynghyd a'i bennaeth, y Cadlywydd Rowland Laugharne a Cyrnol Rice Powel, datganasant eu cefnogaeth i'r brenin.
Gyrrodd Syr Thomas Fairfax, dros y Senedd, Thomas Horton i dde Cymru gyda 3,000 o wŷr traed, catrawd a hanner o farchogion a chatrawd o ddragwniaid. Ymdeithiodd tua thref Caerfyrddin, ond yna bu raid iddo droi am Aberhonddu i atal gwrthryfel yno. Oddi yno, symudodd i gyffiniau Caerdydd a gwersylla yn San Ffagan, i'r gorllewin o'r ddinas.
Roedd byddin Seneddol arall dan Oliver Cromwell ar ei ffordd i Gymru, felly penderfynodd Laugharne ymosod ar Horton cyn i'r ddwy fyddin Seneddol fedru ymuno. Ymosododd ar 8 Mai, gyda byddin o tua 7,500 o wŷr traed ond dim ond ychydig o farchogion.
Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth i'r Seneddwyr, pan ymosododd eu marchogion ar adain chwith a chefn y fyddin Frenhinol. Lladdwyd dros 200 o'r Breniniaethwyr, a chymerwyd 3,000 yn garcharorion.