Rhyfel Cartref yr Alban
Gwedd
| Enghraifft o: | nation at occurrence |
|---|---|
| Dyddiad | 1644 |
| Rhan o | Rhyfel Cartref Lloegr |
| Lleoliad | Yr Alban |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/059s21 |

Roedd Rhyfel Cartref yr Alban yn rhyfel yn 1644 a 1645 rhwng y Brenhinwyr, cefnogwyr y brenin Siarl I a'r Cyfamodwyr, oedd wedi bod yn rheoli'r Alban ers 1639. Roedd y rhyfel yma yn rhan o gyfres Rhyfeloedd y Tair Teyrnas.
Prif gadfridog y Brenhinwyr yn yr Alban oedd James Graham, Ardalydd 1af Montrose. Cododd fyddin, yn bennaf yn Ucheldiroedd yr Alban, a chyda chymorth milwyr o Iwerddon enillodd gyfres o fuddugoliaethau dros fyddinoedd llawer mwy niferus y Cyfamodwyr. Yn y diwedd, bu'r Cyfamodwyr yn fuddugol, a gorfodwyd Montroese i adael yr Alban.
Ym mis Mawrth 1650, dychwelodd Montrose i ymladd dros y brenin Siarl II, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale, a dienyddiwyd ef yng Nghaeredin.