James Graham, Ardalydd 1af Montrose

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
James Graham, Ardalydd 1af Montrose
1st Marquess of Montrose.jpg
Ganwyd 25 Hydref 1612 Edit this on Wikidata
Monadh Rois Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Mai 1650 Edit this on Wikidata (37 oed)
Achos: crogi Edit this on Wikidata
Mercat cross Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Alban, Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol St Andrews Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr, swyddog, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Member of the Parliament of Scotland Edit this on Wikidata
Tad John Graham, 4th Earl of Montrose Edit this on Wikidata
Mam Mary Rutwenn Edit this on Wikidata
Priod Magdalene Carnegie Edit this on Wikidata
Plant James Graham, 2nd Marquess of Montrose Edit this on Wikidata
Llinach Clan Graham Edit this on Wikidata

Uchelwr a chadfridog Albanaidd oedd James Graham, Ardalydd 1af Montrose (25 Hydref 161221 Mai 1650).

Roedd James Graham yn fab i John Graham, 4ydd Iarll Montrose ac yn bennaeth Clan Graham. Daeth yn 5ed Iarll Montrose pan fu farw ei dad yn 1626. Yn 1638, wedi i'r brenin Siarl I geisio gorfodi'r Albanwyr i ddefnyddio'r Llyfr Gweddi Anglicanaidd, bu gwrthwynebiad a arweniodd ar Ryfel yr Esgobion. Cefnogodd Montrose y gwrthwynebiad, ac arwyddodd y Cyfamod Cenedlaethol.

O 1639 ymlaen, y Cyfamodwyr oedd mewn grym yn yr Alban, ond nid oedd Montrose yn cyd-fynd a phlaid y Presbyteriaid dan Archibald Campbell, Ardalydd 1af Argyll, a dechreuodd gefnogi'r brenin. Yn ystod Rhyfel Cartref yr Alban yn 1644 a 1645, Montrose oedd prif gadfridog plaid y brenin. Cododd fyddin o Ucheldiroedd yr Alban, a chyda chymorth 2,000 o filwyr o Iwerddon dan Alasdair MacColla dechreuodd ar ymgyrch a ddangosodd ei dalent eithriadol fel cadfridog. Enillodd fuddugoliaethau, yn aml dros fyddinoedd llawer mwy na'i fyddin ei hun, ym mrwydrau Tippermuir, Inverlochy, Auldearn, Alford a Kilsyth.

Yn dilyn Brwydr Kilsyth roedd Montrose yn feistr ar yr Alban i bob golwg, ond aeth llawer o'r Ucheldirwyr adref gyda'u hysbail. Ar 12 Medi, daeth David Leslie ar draws Montrose gyda byddin fechan, a'i orchfygu ym Mrwydr Philiphaugh. Bu raid i Montrose ddianc i Norwy.

Ym Mawrth 1650 dychwelodd Montrose i'r Alban i ymladd dros Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban. Ni chafodd lawer o gefnogaeth, ac ar 27 Ebrill gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale. Cymrewyd ef yn garcharor yn fuan wedyn, a dienyddiwyd ef yng Nghaeredin ar 21 Mai.