Rhyfeloedd y Tair Teyrnas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Print Almaenig o'r 17eg ganrif yn dangos dienyddiad Siarl I

Defnyddir y term Rhyfeloedd y Tair Teyrnas i gyfeirio at gyfres o ryfeloedd rhwng 1639 a 1651 yn nheyrnasoedd yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. Roedd Cymru wedi ei hymgorffori yn nheyrnas Lloger ar y pryd, o ganlyniad i Ddeddfau Uno 1536 a 1543. Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin Siarl I o Loegr a'r Alban a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin.

Roedd y rhyfeloedd yma yn cynnwys Rhyfeloedd yr Esgobion (1639 a 1640), Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645); Gwrthryfel Gwyddelig 1641, Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon (1642–9) a Rhyfel Cartref Lloegr, mewn gwirionedd tri rhyfel, Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–6), Ail Ryfel Cartref Lloegr (1648–9) a Trydydd Rhyfel Cartref Lloegr Rhyfel (1650–51). Ystyrir yr ymladd yng Nghymru yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr.

Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell yn y pen draw, dros y Brenhinwyr yn Lloegr, yna yn yr Alban ac Iwerddon. Bu nifer o ryfeoledd eraill tebyg yn Ewrop yn y cyfnod yma; y Fronde yn Ffrainc a gwrthryfeloedd Yr Iseldiroedd, Catalonia a Portiwgal yn erbyn llywodraeth Sbaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]