Brwydr Naseby
Cofeb y frwydr yn edrych dros faes y gad | |
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Dyddiad | 14 Mehefin 1645 |
| Rhan o | Rhyfel Cartref Lloegr |
| Lleoliad | Naseby |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
| Rhanbarth | Gorllewin Swydd Northampton |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0qjjw |
Digwyddodd Brwydr Naseby ar 14 Mehefin 1645 yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, ger pentref Naseby yn Swydd Northampton, Lloegr. Dinistriodd Byddin Fodel Newydd y Seneddwyr, dan orchymyn Syr Thomas Fairfax ac Oliver Cromwell, brif fyddin y Brenhinwyr dan Siarl I a'r Tywysog Rupert. Daeth y gorchfygiad i ben ag unrhyw obaith gwirioneddol o fuddugoliaeth i'r achos brenhinol, er nad tan fis Mai 1646 yr ildiodd Siarl o'r diwedd.[1]
Dechreuodd ymgyrch 1645 yn Ebrill pan orymdeithiodd y Fyddin Fodel Newydd, a oedd newydd ei ffurfio, i'r gorllewin i gynorthwyo Taunton, cyn cael gorchymyn i ddychwelyd i osod gwarchae ar Rydychen, prifddinas y Brenhinwyr yn ystod y rhyfel.[2] Ar 31 Mai, ymosododd y Brenhinwyr ar Gaerlŷr a chyfarwyddwyd Fairfax i roi'r gorau i'r gwarchae ac ymladd yn eu herbyn. Er fod y nifer ym myddin Charles yn llawer llai niferus na byddin y Fodel Newydd, penderfynodd Charles sefyll ac ymladd ac ar ôl sawl awr o frwydro, dinistriwyd ei fyddin i bob pwrpas.[3] Dioddefodd y Brenhinwyr dros 1,000 o golledion, gyda dros 4,500 o'u milwyr traed yn cael eu dal a'u gorymdeithio drwy strydoedd Llundain; ni fyddent byth eto'n anfon byddin cyn gryfed.
Collasant hefyd eu holl fagnelaeth a'u storfeydd ffrwydron a bwyd, ynghyd â bagiau personol a phapurau preifat Charles; roedd y papurau hyn yn datgelu ei gynlluniau a'i ymdrechion i ddod â Chynghrair Catholig Iwerddon a hurfilwyr tramor i gryfhau ei fyddin. Cyhoeddwyd y rhain mewn pamffled o'r enw Agorwyd Cabinet y Brenin (Saesneg: The King's Cabinet Opened), ac roedd cyhoeddi'r rhain yn hwb mawr i achos y Seneddwyr.

Cyflafan Shelford
[golygu | golygu cod]Daeth yr ymosodiad ar 100 o Gymry yn Shelford bum mis ar ôl i'r Brenhinwyr gael eu trechu ym Mrwydr Naseby ar Fehefin 14, 1645 yn Northamptonshire.
Cadwyd y gyflafan hon yn gyfrinach am 375 mlynedd oherwydd cywilydd dros farwolaethau sifiliaid diniwed. Cyhoeddwyd y wybodaeth yn dilyn ymchwil gan Dr Appleby; daeth ei ganfyddiadau am y gyflafan yn Shelford Manor ar lannau Afon Trent ger Nottingham i'r amlwg ar ôl dod o hyd i sawl deiseb am gymorth gwladol gan deuluoedd y dioddefwyr.[4][5]
Ar ôl Brwydr Naseby ym Mehefin 1645 daeth marchoglu'r Seneddwyr, wrth erlid y Brenhinwyr oedd yn ffoi, ar draws gwersyll o gefnogwyr (y Brenhinwyr), sef grŵp mawr o tua 500 o fenywod a phlant. Wrth eu clywed yn sgrechian mewn iaith anhysbys, tybiodd y Pengryniaid Seisnig ac anwybodus eu bod yn Gatholigion Gwyddelig. Lladdwyd nhw, neu anrheithiwyd eu hwynebau, mewn gwaed oer. Ond mewn gwirionedd roedd y menywod hyn yn gweiddi yn y Gymraeg.[6]
Lladdwyd tua 160 o Frenhinwyr yn Shelford Manor ar Afon Trent ger Nottingham ym 1645; roedd 100 o'r rhain yn Gymry. Credir bod y meirw wedi cynnwys menywod a phlant. Gwragedd milwyr ym myddin y Brenhinwyr oedd y rhain, a oedd wedi dilyn eu gwŷr i'r rhyfel i goginio a golchi drostynt.
Cymeradwyodd Oliver Cromwell ladd sifiliaid yn Wexford a Drogheda oherwydd eu bod yn Gatholigion,’ meddai Jerry Hunter, ‘ond rhoddwyd llai o sylw i gyflafan arall a ddioddefwyd wrth law ei luoedd. Yn dilyn y gyflafan, galwodd y Seneddwyr y rhai a laddwyd yn Shelford yn ‘gwrtesaniaid’, ‘puteiniaid Gwyddelig’ a ‘gwrachod’.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cotton 1975, t. 212.
- ↑ Royle 2004, t. 323.
- ↑ Royle 2004, t. 327.
- ↑ bangor.ac.uk; 'O’r Byd Newydd i’n byd ni – cyfieithiad newydd o nofel epig Jerry Hunter'; Mae prif gymeriad y nofel, Rhisiart Dafydd, yn Biwritan o Gymro, ac mae ei ffydd bybyr yn ei arwain at groesawu achos y Senedd a derbyn trais byddin Cromwell ond mae’r gyflafan yn erbyn y merched yn peri iddo ail-ystyried ei ffydd a’i deyrngarwch at yr achos.; adalwyd 31 Mai 2025.
- ↑ [1] papur express.co.uk; English Civil War: Massacre kept secret for 375 years due to shame over deaths; adalwyd 31 Mai 2025.
- ↑ Hughes 2011, t. 41.
- ↑ philippagregory.com; The Battle of Naseby; Mehefin 2019; adalwyd 31 Mai 2025.
