Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr
| Enghraifft o: | rhyfel |
|---|---|
| Rhan o | Rhyfel Cartref Lloegr |
| Dechreuwyd | 1642 |
| Daeth i ben | 1646 |
| Lleoliad | Cymru a Lloegr |
| Yn cynnwys | Brwydr Gyntaf Newbury, Ail Frwydr Newbury, Brwydr Lansdowne |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/042szn |
Rhyfel rhwng plaid Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban, a phlaid y Senedd a barodd o 1642 tan 1646 oedd Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Roedd yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr, ac felly'n rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas, oedd yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cynghreiriaid Iwerddon (1642–9).
Ymladdodd miloedd o Gymry yn Rhyfel Cartref Lloegr, yn bennaf dros y Brenhinwyr (Cymro yn eu meddwl nhw oedd Harri Tudur!). Collwyd nifer mawr o filwyr Cymru mewn brwydrau fel Naseby (1645) a Chaer (1646), anafwyd llawer a'u gadael yn dlawd; atafaelwyd eu tiroedd hefyd.
Hawliodd y gyfres o frwydrau rhwng 1642 a 1651 fywydau cyfran uwch o boblogaeth Cymru a Lloegr na’r Rhyfel Byd Cyntaf.[1]
Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd ydoedd, a ddechreuodd pan gododd Siarl I ei faner yn Nottingham ar 22 Awst 1642. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell erbyn diwedd y rhyfel. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffodd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben.

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- ↑ Papur yr Express; express.co.uk; adalwyd 31 Mai 2025.