Thomas Myddelton
Thomas Myddelton | |
---|---|
Ganwyd | 1550 |
Bu farw | 1631 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1626 Parliament, Arglwydd Faer Llundain |
Tad | Richard Myddelton |
Mam | Jane Dryhurst |
Priod | Elizabeth Brooke, Anna Vanaker, Elizabeth, Hester Saltonstall |
Plant | Thomas Myddleton, Henry Myddelton, Timothy Myddelton, Hester Myddelton, Mary Myddelton, Richard Myddelton, Timothy Middleton |
- Am y dramodydd o'r un cyfnod, gweler Thomas Middleton.
Dyn busnes Cymreig ac Arglwydd Faer Llundain ym 1613 oedd Syr Thomas Myddelton (1550 - 12 Awst 1631, weithiau Myddleton neu Middleton), o Gastell y Waun. Roedd Syr Thomas Myddelton yn bwysig ym mywyd Llundain ar ddechrau'r 18g. Ei fab hynaf oedd Thomas Myddelton (1586–1666), a brynodd Castell Rhuthun ym 1632, ac oedd yn Aelod Seneddol ym 1624 dros Weymouth, ac yn A.S. Dinbych ym 1625.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd Syr Thomas Myddelton yn aelod-sefydlydd o'r East India Company, ac wedi ariannu teithiau Drake, Raleigh a Hawkins yn Y Caribî. Drwy'r cyfoeth a ddaeth o hyn fe brynodd arglwyddiaeth a chastell y Waun (ger y Waun) am £5,000 gan St John of Bletsloe ym 1595.
Dechreuodd Syr Thomas fel prentis i siopwr yn Llundain, cyn dod yn Ddyn-rhydd y Grocers' Company ym 1582, wedyn arolygydd y pothladdoedd tua 1580 ac erbyn 1595 yn gynghorydd i'r llywodraeth ar godi trethi a chyflenwi nwyddau. Roedd yn A.S. Merionydd erbyn 1597 ac yn Arglwydd Rhaglaw'r sir ym 1599, yn Arglwydd Faer Llundain yn 1613, ac yn A.S. y Ddinas rhwng 1624–1626. Ym 1615 prynodd faenordy yn Essex ac eiddo eraill yn Ne-ddwyrain Lloegr. Ym 1628–1629 prynodd Argwyddiaeth Arwystli a Chyfeiliog.
Y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Roedd yn noddwr hael o argraffiadau cynnar o'r beibl Cymraeg, mor hael fod Stephen Hughes, y Piwraton, wedi cyfansoddi bendith iddo a'i "eppil". Fel ffigwr amlwg yn ardal Castell y Waun ac ym Meirionydd yr oedd e'n gysylltiedig â datblygiadau yr Eglwys yng Nghymru.
Ynghyd â Rowland Heylyn, ariannodd Myddelton gyhoeddiad o'r Beibl Cymraeg a oedd yn addas i'w ddefnyddio o ddydd i ddydd.[1]
Arall
[golygu | golygu cod]Cyfansoddodd y dramodydd Seisnig Thomas Middleton ddrama ym 1713 i ddathlu achlysur Thomas Myddelton yn dod yn Arglwydd Faer Llundain, sef A Cheap Maid in Cheapside. Yn y ddrama mae aeres ddiniwed o Gymru yn dod i Lundain i briodi a hithau heb air o Saesneg, "Dygat a chwee" yw ei hunig eiriau - sef "Duw gyda chwi" enghraifft prin iawn o'r Gymraeg ar lwyfan Saesneg.
Y Teulu
[golygu | golygu cod]Daeth enw'r teulu o Robert Myddelton, mab Rhirid ap Dafydd o Benllyn (1393–1396), drwy ei briodas â Cecilia, aeres Syr Alexander Myddleton o Middleton, pentref bychan ym mhlwyf Llanffynhonwen (Saesneg: Chirbury), Swydd Amwythig gan fabwysiadu cyfenw ei wraig. Saif y pentref oddeutu milltir o ffin bresennol Cymru a Lloegr. Bu gan eu disgynyddion swyddi o dan y Goron, yn Sir Ddinbych a symudodd tri o feibion Richard Myddelton (c. 1508-75) i Lundain. Ymhlith y mwayf adnabyddus o'r teulu y mae:
- Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631), Arglwydd Faer Llundain
- Syr Hugh Myddelton (1560 - 1631), peirinnydd y New River
- William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.
- Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666) o'r Waun ac yna Wrecsam; mab Arglwydd Faer Llundain (uchod). Arweiniodd luoedd y Senedd yn y gogledd-ddwyrain
- Thomas Myddelton (c. 1624 - 1663) a wnaed yn farwnig yn 1660 am ei wasanaeth i'r Goron.
Daeth y llinach wrywaidd i ben yn 1796.