Neidio i'r cynnwys

John Jones, Maesygarnedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o John Jones (Maesygarnedd))
John Jones, Maesygarnedd
Ganwydc. 1597 Edit this on Wikidata
Maesygarnedd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 1660 Edit this on Wikidata
Charing Cross Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the First Protectorate Parliament, Member of the 1642-48 Parliament, Member of the 1648-53 Parliament Edit this on Wikidata
PlantJohn Jones Edit this on Wikidata

Roedd John Jones, Maesygarnedd (159717 Hydref 1660) yn un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth Siarl I, brenin Lloegr a brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]
Maesygarnedd

Cafodd ei eni yn ffermdy Maesygarnedd (neu Maes y Garnedd) yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), yn fab i Thomas Jones. Oherwydd nad ef oedd y mab hynaf gyrrwyd ef i Lundain i wasanaethu teulu Myddleton. Priododd Margaret merch John Edwards, Stanstey.[1]

Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr, ymunodd John Jones â byddin y Senedd. Erbyn 1646 roedd yn ymladd yng ngogledd Cymru ym myddin Syr Thomas Mytton fel Cyrnol, a'r flwyddyn wedyn daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.

Roedd yn aelod o'r cwrt a fu'n profi Siarl I ar ddiwedd yr ail Ryfel Cartref, ac roedd yn un o'r rhai a roddodd eu henwau ar warant marwolaeth y brenin. Fe'i dewiswyd yn gomisiynwr Taeniad yr Efengyl yng Nghymru. Ym 1650 aeth i Iwerddon yn brif gomisiynydd i weinyddu'r wlad, ac yn 1655 gwnaed ef yn gomisiynydd dros ogledd Cymru. Roedd ei wraig gyntaf wedi marw yn yr Iwerddon y 1651, ac y 1656 ail-briododd a Katherine, chwaer Oliver Cromwell.[2]

Yn dilyn marwolaeth Cromwell ac ymddiswyddiad ei fab Richard Cromwell, fe gymerwyd John Jones yn garcharor gan wŷr y cadfridog George Monck yn 1660. Fe'i cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth, a chafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn Llundain ar 17 Hydref 1660.

Roedd Jones yn ŵr crefyddol iawn ac roedd yn gohebu a Morgan Llwyd a Vavasor Powell, a threfnodd i argraffu rhan o waith Morgan Llwyd yn Iwerddon.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. J. Graham Jones (1998). The History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 70. ISBN 978-0-7083-1491-3.
  2. Arthur Herbert Dodd. "Jones, John, Maesygarnedd, Sir Feirionnydd, a'i deulu, 'y brenin-leiddiad'". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2021.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]