Brwydr Marston Moor

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Marston Moor
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad2 Gorffennaf 1644 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Cartref Lloegr Edit this on Wikidata
LleoliadLong Marston Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o frwydrau pwysicaf Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–1646) oedd Brwydr Marston Moor (2 Gorffennaf 1644), rhwng y Seneddwr Ferdinando Fairfax a'r fyddin Seisnig, gyda'r Cyfamodwyr o'r Alban yn erbyn byddin Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban.[1]

I Ferdinando Fairfax a'r Cyfamodwyr yr aeth y fuddugoliaeth bwysig hon.

Oliver Cromwell ym Mrwydr Marston Moor (1599–1658). Cadarnhawyd enw Cromwell fel milwr y cafalri drwy'r fuddugoliaeth hon.

Yn ystod haf 1644, roedd y Seneddwyr a'r Cyfamodwyr wedi rhoi Efrog dan warchae, a oedd yn cael ei hamddiffyn gan Marcwis Newcastle. Roedd y Tywysog Rupert wedi casglu byddin gref a fartsiodd drwy Ogledd Orllewin Lloegr ac ar draws bryniau'r Pennines, gan gynyddu mewn nifer wrth fynd. Bwriadent dorri'r gwarchae a rhyddhau'r dref. Pan ddaeth y ddwy fyddin benben a'i gilydd, ymladdwyd brwydr mwyaf y Rhyfel Cartref.

Ar y 1af o Orffennaf, gwnaeth Rupert, symudiad annisgwyl drwy orfodi brwydr, er fod ganddo lawer llai o filwyr yn ei fyddin. Ond yn hytrach nag ymosod ar unwaith, yn y bore bach, daliodd ei afael - a chynyddodd y ddwy ochr o ran nifer. Tir corsiog yw Marston Moor, sy'n agored ac eang, mymryn i'r gorllewin o Efrog. Yn y cyfnos, ymosododd y ddwy ochr ar ei gilydd, ac wedi dwy awr, roedd y pennau-grynion (neu'r Seneddwyr), dan arweiniaeth Oliver Cromwell, yn erlyn y Brenhinwyr hynny a oedd yn dianc o faes y gad, gyda'u cynffonau rhwng eu coesau.

Ar y cyfan, canlyniad y frwydr hon oedd gweld y Brenhinwyr wedi'u clirio o Ogledd Lloegr a golygai fod Brenhinwyr De Lloegr wedi'u gwahanu oddi wrth Brenhinwyr yr Alban.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llyfr: Civil War: The Wars of the Three Kingdoms 1638–1660, gan Trevor Royle; cyhoeddwyd yn Llundain gan Abacus, 2004, isbn=0-349-11564-8 tud.279