Pengryniad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ail-greu ymosodiad y Pengryniaid ar Gastell Cil-y-coed gan actorion y Sealed Knot.

Pengryniad (lluosog: Pengryniaid) neu Seneddwyr oedd y term a roddwyd ar gefnogwyr Llywodraeth Lloegr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651, a therm sy'n dal i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r bobl hyn. Eu gwrthwynebwyr oedd y Brenhinwyr (Saesneg: Cavaliers neu Royalists), sef cefnogwyr Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban. Nod y Pengryniaid oedd trosglwyddo pwer y wlad o ddwylo'r Brenin i'r Llywodraeth a'r Senedd.[1][2]

Cyn hyn, credai llawer yn y Fonarchiaeth Ddwyfol a bod gan y Brenin yr hawl absoliwt a dwyfol i reoli ac roedd y mwyafrif yn dymuno gweld y frenhiniaeth yn parhau i fodoli, ond yn atebol i'r cyfansoddiad. Ond erbyn diwedd y Rhyfel Cartref trodd y mwyafrif yn erbyn y Brenin a gwelwyd Oliver Cromwell yn dileu'r frenhiniaeth yn gyfangwbwl a sefydlu Gwerinlywodraeth Lloegr (the Commonwealth of England).

Pencadlywydd y Pengryniaid oedd Thomas Fairfax, a daliai ef ynghyd ag Edward Montagu, ail iarll Manchester a Robert Devereux, 3ydd iarll Essex yn dynn yn y gred sylfaenol o freniniaeth gyfansoddiadol. Fodd bynnag, roedd Cromwell yn llawer mwy hyddysg yn y Gyfraith, a gyda chefnogaeth y Fyddin Fodel Newydd trechodd Fairfax a'i ddilynwyr.

Roedd y rhan fwyaf o Biwritaniaid a Phresbyteriaid Cymru a Lloegr hefyd yn cefnogi'r Pengryniaid.

Rhai Pengryniaid Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]