Caer Gai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Caer Rufeinig yn ardal Penllyn, Gwynedd, yw Caer Gai (hefyd Caer-gai). Saif 1 filltir i'r gogledd o bentref Llanuwchllyn, 5 milltir i'r gorllewin o'r Bala; cyfeiriad grid SH877314.

Y lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhed Afon Dyfrdwy wrth droed y gaer. Yn gefn iddi i'r gogledd mae'r bryniau'n codi i gyrraedd 854m yn Arennig Fawr. O'i blaen mae mynyddoedd Y Berwyn ac Aran Benllyn. Mae'r ffordd Rufeinig o Gaer i Frithdir (ar Sarn Helen) yn rhedeg heibio iddi. Mae ffordd Rufeinig arall yn cysylltu'r gaer â chaer Rufeinig Tomen y Mur, trwy Bennant-Lliw.

Mae Caer Gai yn gorwedd ar ysgwydd gron isel â llethrau syrth ar dair ochr iddi. Mae'n amgae 4 acer o dir. Mae'r mur allanol i'w gweld yma ac acw, gyda phum haen o waith carreg. Mae plasdy Caer Gai (17eg ganrif yn ei ffurf bresennol) yn cuddio rhan o'r gaer Rufeinig. Ceir rhyd ar y ffordd Rufeinig wrth ymyl y gaer.

Y gaer Rufeinig[golygu | golygu cod y dudalen]

Credir i'r gaer gyntaf, o bridd a phren, gael ei chodi yng nghyfnod Titus. Codwyd caer o waith cerrig yno tua dechrau'r 2ail ganrif. Cafwyd hyd i ddarn o gerflun gydag arysgrif Ladin arno sy'n cofnodi iddo gael 'ei wneud gan Iulius fab Gavero, milwr yng Nghohort Cyntaf y Nervii' ('IVLIVS GAVERONIS F(ilius) FE(cit) MIL(es) CHO I NER(vium)'. Roedd y cerflun yn sefyll mewn cysegrfan 100m i'r dwyrain o'r gaer; cafwyd darnau o grochenwaith yno hefyd sy'n dyddio i'r cyfnod tua 100-150.

Cafwyd hyd i fynwent Rufeinig gysylltiedig â'r gaer 400m i'r gogledd-ddwyrain. Tybir fod tref fechan yn ymyl y gaer. Darganfuwyd olion adeilad, baddondy Rhufeinig yn ôl pob tebyg, i'r de-ddwyrain o'r safle.

Enwir y gaer ar ôl yr arwr chwedlonol Cai fab Cynyr, a gysylltir â chwedlau cylch Arthur, gan gynnwys Culhwch ac Olwen a'r Tair Rhamant. Ceir cyfeiriadau yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr at Gaer Gai fel ei gartref.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr Oesoedd Canol diweddar yr oedd Caer Gai yn gartref i'r bardd Tudur Penllyn (c. 1420 - 1485) a'i fab Ieuan ap Tudur Penllyn (fl. c. 1480). Cafodd Tudur Gaer Gai ar ôl priodi Gwerful ferch Ieuan Fychan, oedd yn ddisgynydd i Ririd Flaidd (m. tua 1160), ac mae'n bosibl fod Caer Gai ym meddiant Rhirid pan gafodd arglwyddiaeth Penllyn. Ceir cyfeiriadau at gynnal llys Penllyn yng Nghaer Gai yn yr Oesoedd Canol, cyn ei symud i'r Bala.

Y 17eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ddiweddarach codwyd plasdy newydd ar y safle. Yno y trigai Rowland Vaughan (c.1587 - 1667), bardd a brenhinwr enwog yn y Rhyfel Cartref. Llosgwyd y plasdy i lawr yn 1645 yn ystod y Rhyfel Cartref ond codwyd ffermdy sylweddol yn ei le, sy'n dal i sefyll heddiw.

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME018.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978)
  • Thomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958)
  • Grace Simpson, 'Caerleon and the Roman Forts in Wales in the second century AD', Archaeologia Cambrensis CXI (1962).


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis