Caer Rufeinig Pennal

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Lleolir Caer Rufeinig Pennal ar gwr pentref Pennal, Gwynedd; cyfeiriad grid SH705000. Mae enw'r Rhufeiniaid am y gaer hon yn anhysbys.

Roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio'r fan, a chodwyd caer Rufeinig fechan yma, efallai yn gwarchod man croesi Afon Dyfi. Roedd hyn yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid.

Ni ellir gweld lawer o weddillion y gaer, mae rhan ohoni wedi ei gorchuddio gan dŷ Cefn Caer i'r de-ddwyrain o'r pentref, yn nes i'r afon. Roedd y gaer yn cynnwys 12 acer o dir, sef tua 670 troedfedd wrth 505 troedfedd, wedi ei chodi ar ben caer gynharach o 4.38 acer. Cafwyd arian bath o gyfnod Titus a Domitian ar y safle. Y darganfyddiad mwyaf diddorol oedd teil lleng Rufeinig sy'n darllen LEG II AVG ANTO(ninia), sy'n perthyn i'r cyfnod 212-222 efallai.

Cadw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME009.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis