Safle Rufeinig Caersŵs
![]() | |
Math | caer Rufeinig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caersŵs ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.522221°N 3.411324°W, 52.5162°N 3.4329°W ![]() |
![]() | |
Saif Safle Rufeinig Caersŵs gerllaw Caersŵs, Powys, a ger afon Hafren; cyfeiriad grid SO029921.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Ceir dwy gaer Rufeinig yma. Adeilawyd y gaer gyntaf, Caersŵs I, ar dir uchel uwchben afon Hafren. Mae'n perthyn i'r cyfnod cynnar, cyn 69 OC, ac efallai yn perthyn i gyfnod yr ymladd rhwng y Rhufeiniaid a'r Ordoficiaid.
Saif yr ail gaer, Caersŵs II, ar dir gwastad ger glan ogleddol afon Carno. Adeiladwyd hon yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Vespasian, yn y 70au OC. Mae ganddi arwynebedd o 7.7 acer, sy'n awgrymu ei bod wedi ei bwriadu ar gyfer garsiwn o cohors milaria o fil o filwyr atodol. Cafwyd hyd i grochenwaith a darnau arian, yn enwedig ar safle'r baddondy, yn dyddio o deyrnasiad Antoninus Pius (138 - 161) hyd gyfnod Victorinus a Tetricus I (268 - 273). Ceir cofnod i gohort cynhtaf y Celtiberiaid ffurfio'r garsiwn yn ystod y 3g. Nid oes unrhyw arwydd o filwyr yma at ôl 280, ond ymddengys i'r gaer hon gael ei defnyddio'n barhaus am gyfnod hwy nag unthyw gaer arall yng Nghymru.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1b/Roman_Fort_-_but_hard_to_see%5E_-_geograph.org.uk_-_1294237.jpg/250px-Roman_Fort_-_but_hard_to_see%5E_-_geograph.org.uk_-_1294237.jpg)
Tu allan i'r gaer, ceir olion vicus sylweddol, yn cynnwys siopau ac efallai tafarn. Gerllaw, roedd fila Rufeinig, gyda'i baddondy ei hun.
Cadw[golygu | golygu cod]
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: MG001.[1]
Ceir ail gaer Rufeinig yn cyfeiriad grid SO029918, gyda'r rhif SAM unigryw: MG222.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Symons, S. Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |