Cae Gaer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Safle Cae Gaer o'r de

Caer Rufeinig ym Maldwyn, Powys, yw Cae Gaer (cyfeiriad grid SN824818). Mae'r safle yn gorwedd yn uchel ym mhlwyf Llangurig 2 filltir i'r dwyrain o'r bwlch sy'n cael ei groesi gan draffordd yr A44 heddiw, i'r de o fryniau Pumlumon.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma un o'r caerau Rhufeinig mwyaf anghysbell ym Mhrydain. Efallai ei bod yn gorwedd ar lwybr ffordd Rufeinig anhysbys y credir ei bod efallai yn cysylltu caerau Caersŵs, i'r gogledd, a'r Trawscoed i'r de.[1]

Lleolir y gaer ar darn o dir agored yng nghanol un o goedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth, ar bwys nant sy'n rhedeg i lawr o'r bryniau i'r de i ymuno yn Afon Tarenig, un o ledneintiau afon Wysg, sydd a'i chymer yn yr afon honno filltir a hanner yn is i lawr.

Caer fechan o siâp paralelogram ydyw. Efallai fod y siâp anghyffredin wedi cael ei phenderfynu oherwydd gofynion y safle, ar lwyfan gyfyng ar lethr y bryn. Bu ganddi ddau borth ond mae'r un deheuol wedi'i erydu i ffwrdd gan y nant. Cafodd y safle ei gloddio yn 1913 a datguddiwyd clawdd tywarch 5 medr o led gydag olion polion ynddi, i gynnal ffens o bren yn ôl pob tebyg. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth archaeolegol i ddangos pryd y codwyd y gaer.[2]

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: MG057.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978).
  2. I. A. Richmond, 'Roman Wales' yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
  3. Cofrestr Cadw.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis