Caer Rufeinig Caerllion
| Math | adeilad Rhufeinig, safle archaeolegol, caer Rufeinig |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Caerllion |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.609862°N 2.956499°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | MM252 |
Lleng-gaer enfawr o'r cyfnod Rhufeinig ydy Caer Rufeinig Caerllion, Caerllion, Sir Casnewydd; cyfeiriad grid ST338906. Dyma bencadlys y Rhufeiniaid yn eu hymgyrch i orchfygu brodorion De Cymru.
I'r Rhufeiniwr o leng Legio II Augusta, fel "Isca Silurum" gan mai yn nhiriogaeth y Silwriaid yr oeddent neu fel 'Isca Augusta yr adnabyddid y lleng-gaer hon. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74 OC, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.


Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: MM252, MM230 ac eraill.[1]
Mae olion Rhufeinig wedi cael eu darganfod yn ddiweddar mewn rhan arall o Gaerllion, sef, "The Mynde".[2]
Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.
Yr amffitheatr
[golygu | golygu cod]
Arferai'r trigolion lleol alw'r amffitheatr yn "Fwrdd Crwn Arthur" oherwydd ei siâp a'r cysylltiad honedig gydag Arthur. Rhwng 1909 ac 1926 cafwyd cloddio archaeolegol o dan arweiniad Victor Erle Nash-Williams, a ddaeth i'r canlyniad mai oddeutu 90 OC y cychwynnwyd ar y gwaith o'i godi. Erys y rhan fwyaf ohono heb ei gloddio. Siâp hirgrwn sydd iddo mewn gwirionedd a chredir y gallasid dal oddeutu chwe mil o bobl. Mae'n cynnwys clawdd pridd wedi ei gynnal gan fur o gerrig, lle mae wyth mynedfa i'r man perfformio.[3]

98llath
(Caerllion)
DEHEUOL
sinistra
Caerau Rhufeinig cyfagos
[golygu | golygu cod]Ceir Caer Penrhos gerllaw: rhif SAM MM011; cyfeiriad grid ST342917.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Julius ac Aaron, merthyron Cristionogol, dienyddiwyd yn 304.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ The Mynde, Caerleon
- ↑ Over Wales Cyhoeddwyd Pitkin Unichrome 2000
- ↑ Evans, Edith (2004). The Roman fortress of Caerleon and its environs: A framework for research (Adroddiad). Glamorgan-Gwent Archaeological Trust. http://www.walesher1974.org/herumd.php?group=GGAT&level=3&docid=301360163.
- ↑ Isca (Caerleon Roman Fortress) (ID PRN00514g) ar 'SMR' ar gyfer Glamorgan-Gwent Archaeological Trust (GGAT)
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]
| Caerau Rhufeinig Cymru | |
|---|---|
| Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis | |
