Rhirid Flaidd
Uchelwr a noddwr beirdd oedd Rhirid Flaidd (yn fyw tua 1160). Roedd yn byw yng ngogledd Powys ac yn noddwr i'r bardd Cynddelw Brydydd Mawr. Roedd yn fab i Gwrgenau a oedd â ach amheus yn mynd nôl at Gunedda Wledig. Priododd Gwenllian, ferch Ednyfed ap Rhiwallon, Brochdyn, a cawsont ddau fab, Einion a Madog[1] Mae'r ychydig a wyddys amdano yn deillio o gyfeiriadau ato gan Gynddelw a gwybodaeth am ei deulu yn yr achau Cymreig.
Madog ap Maredudd oedd brenin Powys yn oes Rhirid. Mae'n debyg i Ririd a'i frawd Arthen gael eu lladd mewn brwydr yn fuan ar ôl marwolaeth Madog yn 1160.
Mae'r achau yn dangos fod Rhirid yn fab i uchelwr o'r enw Gwrgenau a oedd yn arglwydd lleol gyda thir ym Mochnant, Pennant Melangell ac ardal Croesoswallt. Ei fam oedd Haer ferch Cynfyn Hirdref o Nefyn. Un o gyndeidiau Rhirid oedd Cillin y Blaidd Rhudd o Ddunoding ac ymddengys fod ei enw trawiadol yn deillio o enw ei hendaid. Gwraig Rhirid oedd Gwenllïan ferch Ednyfed ap Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Brawd ei wraig oedd Einion ab Ednyfed, arglwydd Dinmael.
Mae Rhirid yn adnabyddus heddiw am fod Cynddelw, y mwyaf o'r Gogynfeirdd cynnar, wedi canu iddo a bod tair cerdd iddo ar glawr. Canodd Cynddelw gerdd i ddiolch iddo am anrheg o gleddyf arbennig. Ond ein prif ffynhonnell yw'r ddwy farwnad, un i Ririd ei hun a'r llall iddo a'i frawd Arthen ynghyd. Mae Rhirid yn enghraifft brin a chynnar o noddwr o uchelwr yn Oes y Tywysogion.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ RHIRID FLAIDD (fl. 1160). Y Bywgraffiadur Ar-lein.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, cyfrol I, gol. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991)