Rowland Vaughan

Oddi ar Wicipedia
Rowland Vaughan
Ganwydc. 1590 Edit this on Wikidata
Caer Gai Edit this on Wikidata
Bu farw18 Medi 1667 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, bardd, milwr Edit this on Wikidata

Bardd a chyfieithydd i'r Gymraeg oedd Rowland Vaughan (c. 1587 - 18 Medi, 1667). Roedd yn frenhinwr ac eglwyswr selog yn y Rhyfeloedd Cartref.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Rowland Vaughan tua 1587 yn fab i John Vaughan a'i wraig Elin, perchnogion plasdy hanesyddol Caer Gai, plwyf Llanuwchllyn, Meirionnydd. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen ond does dim cofnod i ddangos iddo raddio yno. Priododd Jane ferch Edward Price o Dref-pysg yn Llanuwchllyn. Cawsant nifer o blant, hyd at wyth efallai.

Cymerodd Vaughan ran flaenllaw yn y cyntaf a'r ail o'r Rhyfeloedd Cartref. Roedd yn Uchel Siryf Meirionnydd yn 1642-43. Dywedir iddo ymladd fel capten ar ochr y brenin Siarl ym Mrwydr Naseby. Pan ddaeth lluoedd y Werinlywodraeth i Feirion llosgwyd Caer Gai i'r llawr ganddynt i ddial arno. Cafodd loches yng Nghilgellan ar lethrau Aran Benllyn. Yn 1650 fe'i dalwyd a chafodd ei garcharu yng Nghaer am gyfnod. Roedd bywyd yn galed arno ar ôl y rhyfel a bu rhaid iddo fenthyg arian gan berthnasau ar fwy nag un achlysur. Bu farw ar 18 Medi, 1667.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Ymddiddorai Rowland Vaughan mewn barddoniaeth a chanai ar y mesurau caeth a rhydd (cyfansoddai ei wraig Jane o leiaf un gerdd ac roedd ei fab hynaf John yn fardd yn ogystal). Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi rhydd ar ôl ei farwolaeth, yn 1729. Ond fel cyfieithydd rhyddiaith dduwiol rhwydd a chain ei arddull y cofir Rowland Vaughan heddiw. Ei waith mwyaf adnbayddus yw ei Yr Ymarfer o Dduwioldeb (1630), cyfieithiad o The Practice of Piety gan Lewis Bayly.

Ceir llech gofeb iddo yn eglwys Llanuwchllyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Llyfrau Rowland Vaughan[golygu | golygu cod]

  • Yr Ymarfer o Dduwioldeb (1630)
  • Eikon Basilike (c. 1650)
  • Yr Arfer o Weddi yr Arglwydd (1658)
  • Pregeth yn Erbyn Schism (1658)
  • Prifannau Sanctaidd neu Lawlyfr o Weddiau (1658)
  • Ymddiffyniad Rhag Pla o Schism (1658)
  • Prifannau Crefydd Gristnogol (1658)
  • Evchologia: neu Yr Athrawiaeth i arferol weddio (1660)
  • Carolau a Dyriau Duwiol (1729)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd adargraffiad o'r Ymarfer o Dduwioldeb gan John Ballinger yn 1930. Ceir pennod ar Vaughan gan Gwyn Thomas yn Y Traddodiad Rhyddiaith, cyf. 2 (gol. Geraint Bowen, 1970).