Neidio i'r cynnwys

Robin Clidro

Oddi ar Wicipedia
Robin Clidro
Ganwyd1545 Edit this on Wikidata
Dyffryn Clwyd (cantref) Edit this on Wikidata
Bu farw1580 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1580 Edit this on Wikidata

Clerwr (bardd is-radd) a cherddor o Ddyffryn Clwyd a fu'n adnabyddus am ei ganu doniol, parodïol oedd Robin Clidro (fl. tua 1545 - 1580au). Am ganrif neu ddwy ar ôl ei farwolaeth bu ei enw yn gyfystyr ag anfedrusrwydd ar farddoniaeth, fel y Bardd Cocos yn y 19g, ond mae mwy o barodrwydd i gydnabod ei ddoniau fel parodïwr arbennig erbyn heddiw.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Roedd ganddo dir yn ei enw ger Rhuthun, Sir Ddinbych, a chredir fod ganddo gartref yno. Doedd o ddim yn un o'r beirdd trwyddedig ond yn hytrach roedd yn perthyn i ddosbarth o feirdd gwerinol a adnabyddir fel y Glêr. Beirdd crwydrol oedd y Glêr, a arferai fynd o gwmpas y wlad i ganu cerddi a chwarae cerddoriaeth yn nhai'r mân uchelwyr ac yn y ffeiriau a'r tafarnau. Roedd y dosbarth yma yn ddirmygiedig gan y beirdd proffesiynol trwyddedig, yn rhannol oherwydd safon "isel" eu crefft a hefyd am eu bod yn cystadlu â hwy am nawdd. Mae'r hyn a wyddom am hanes Robin Clidro yn rhoi i ni gipolwg gwerthfawr ar y beirdd gwerinol hyn.

Mae'r ychydig a wyddom am Robin Clidro yn deillio'n bennaf o dystiolaeth ei gerddi. O'i gartref yn Nyffryn Clwyd roedd yn arfer cychwyn ar deithiau clera - teithio ar gylch o dŷ i dŷ i ennill ei damaid trwy ganu cerddi - ar draws ogledd a chanolbarth Cymru, ac i'r de hefyd weithiau. Canai yn y ffeiriau a'r tafarnau ond mwynheai nawdd rhai o'r uchelwyr lleol hefyd, yn enwedig Salbriaid Bachymbyd (Dyffryn Clwyd) a'r Rug (ger Corwen).[1]

Cerddi

[golygu | golygu cod]

Roedd yn barod iawn i wneud tipyn o hwyl am ei ben ei hun, ac mae rhai o'i gerddi gorau yn adrodd troeon trwstan yn hanes y bardd. Enghraifft dda o hyn yw ei gerdd am ei daith clera i Lwydlo lle roedd y croeso yn brin a'r bardd bron a llwgu. Paradïai waith y beirdd mawr trwy ganu cerddi mawl a marwnadau digrif. Roedd yn hoff o ddod â thipyn o faswedd, diniwed a doniol, i mewn i'w cerddi hefyd, fel yn y gerdd 'Awdl Pysgota' lle ceir llawer o fwyseirio ar y gair [y]sletten (1. cwch bach, 2. slwt, hwren). Er enghraifft:

Roedd yno ŵr o Lanbadarn
Â'i ysletten fawr lydan
Â'i thin ar y graian
Wedi mynd yn greie.[2]

O ran ei grefft, nodweddir ei gerddi gan gynghanedd lac a llawer o feiau mân (ond llai felly i'r glust), iaith lafar dafodieithol a pharodrwydd i fenthyg o'r Saesneg. Cerddi rhydd ydynt, ond cerddi rhydd sy'n perthyn yn agos iawn i'r canu caeth.

Canodd y bardd Siôn Tudur ffug farwnad i Robin Clidro sy'n efelychu ei arddull ac yn ychwanegu at ein gwybodaeth amdano. Dywed fod Robin yn arfer ei hegla hi am Degeingl "bob dydd" i glera, i Gaernarfon bob wythnos ac i Fôn unwaith y mis. Roedd yn cario pastwn (dim i amddiffyn ei hun yn unig ond hefyd i gadw'r amser trwy taro'r llawr wrth ddatgan cerddi). Roedd yn canu'r crwth (yn anfedrus!) ac efallai'n medru canu'r pibau hefyd.[3]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Erys y rhan fwyaf o gerddi Robin Clidro heb eu cyhoeddi.

  • D. Lloyd Jenkins (gol.), Cerddi Rhydd Cynnar (1931). Detholiad byr.
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932). Ceir pum cerdd gan Robin Clidro yn y gyfrol, yn yr orgraff wreiddiol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Enid Rowlands (gol.), Gwaith Siôn Tudur, 2 gyfrol (Caerdydd, 1980), cyfrol 2, tud. 512.
  2. T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932), tt. 161-3.
  3. Gwaith Siôn Tudur, cyfrol 1, cerdd 143; cyfrol 2, nodiadau tt. 512-20.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]