Bachymbyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 53°08′16″N 3°21′20″W / 53.137776°N 3.355692°W / 53.137776; -3.355692
Bachymbyd
Bachymbyd is located in Sir Ddinbych
Bachymbyd

 Bachymbyd yn: Sir Ddinbych
Cyfeirnod grid yr AO SJ06SE81
    - Caerdydd 114.8 mi (184.8 km)  
    - Llundain 176.8 mi (284.5 km)  
Cymuned Llanynys
Sir Sir Ddinbych
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Dinbych
Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dyffryn Clwyd
Cynulliad Cymru Dyffryn Clwyd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Ddinbych

Plasdy Cymreig a phentrefan ym mhlwyf Llanynys, ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Bachymbyd (amrywiad: Bachynbyd). Roedd yn un o dai Salbriaid Llewenni ac yn ganolfan nawdd bwysig i'r beirdd Cymraeg, yn enwedig yn yr 16g.

Sefydlwyd Bachymbyd gan Pyrs Salbri drwy ei briodas ag aeres Hywel ap Rhys o'r Rug, ger Corwen.

Un o'r beirdd a noddid gan Salbriaid Bachymbyd oedd y clerwr Robin Clidro. Erys ar glawr cerdd o ddiolch ganddo i Robert Salbri (bu farw 1551). Dyma ddarn ohono:

Mi a euthum i Fachymbyd at y gŵr gore
Y coed (tair chwaer) Neuadd Bachymbyd, Llanynys
Llei bo bendith y byd yn ei neuadde,
A merch arglwydd Llŷn yn rhoi aur a gwledde,
A gwin ac arian, a byd o'r gore.
A lloned y plas o wŷr da eu campe,
A llawenydd y byd oedd y gwylie.
Mi a fûm yno flwyddyn yn iro 'y nghrimoge
Heb wneuthur gwaith na gorchwyl ond cysgu y bore,
Fo ddoeth y meistr Robert ac a roes imi lifre,
Arglwydd Bachymbyd, y penna' o'r plase.[1]

Roedd yr anterliwtwr a bardd Twm o'r Nant yn ennill bywoliaeth fel cariwr coed ym Machymbyd a'r cylch hyd tua 1769.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyfynnir yn: Enid Rowlands (gol.), Gwaith Siôn Tudur, 2 gyfrol (Caerdydd, 1980), cyfrol 2, tud. 518.
CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato