Dafydd (brenin)

Oddi ar Wicipedia
Dafydd
Manylyn o beintiad o Frenin Dafydd (1858) gan Dante Gabriel Rossetti yn Eglwys Gadeiriol Llandaf
Ganwyd1039 CC Edit this on Wikidata
Bethlehem Edit this on Wikidata
Bu farw969 CC
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
GalwedigaethBrenin
Adnabyddus amLlyfr y Salmau Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadJesse Edit this on Wikidata
MamNitzevet Edit this on Wikidata
PlantSolomon, Absalom, Chileab, Nathan, Adonijah, Amnon, Ibhar, Ithream, Shephatiah, Sobab Edit this on Wikidata

Cymeriad yn yr Hen Destament ac ail frenin teyrnas unedig Israel oedd Dafydd (Hebraeg: דוד) (teyrnasodd tua 1010 CC970 CC). Yn draddodiadol, cyfeirir ato hefyd fel Dafydd Broffwyd.

Ceir ei hanes yn nifer o lyfrau'r Hen Destament: I Samuel a II Samuel, Llyfr Cyntaf y Cronicl ac Ail Lyfr y Brenhinoedd. Ef oedd y mab ieuengaf mewn teulu mawr. Daeth i sylw trwy ladd y cawr Goliath pan oedd yr Israeliaid yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Rhoddwyd Michal, merch Saul, brenin cyntaf Israel, yn wraig iddo. Yn ddiweddarach, aeth Saul yn genfigennus o'i lwyddiant milwrol yn erbyn y Ffilistiaid, a bu raid iddo ffoi.

Daeth yn frenin pan laddwyd Saul a'i fab Jonathan, yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Am y saith mlynedd cyntaf, teyrnsai o Hebron, ond yna gwnaeth Jeriwsalem yn brifddinas iddo, wedi iddo gipio'r ddinas oddi wrth y Jebiwsiaid. Bu ganddo nifer o wragedd, a chafodd nifer o feibion ganddynt hwy a chan ordderchwragedd, yn eu plith Solomon, a'i olynodd ar yr orsedd, oedd yn fab i Bathseba, gweddw Urias.

Yn y traddodiad Cristnogol, roedd Dafydd yn gyndad i Iesu Grist. Cafodd yr enw 'Dafydd Broffwyd' yn yr Oesoedd Canol ac mae Islam yn ei ystyried fel proffwyd yn olyniaeth Moses ac yn un o ragflaenwyr pwysicaf y proffwyd Mohamed. Yn draddodiadol, dywedir mai ef oedd awdur Llyfr y Salmau. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr a cherflunwyr ar hyd y canrifoedd; yr enwocaf o'r gweithiau hyn yw Dafydd gan Michelangelo.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]